Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/189

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cawn gyfarfod a'n cyfeillion,
Ar heirdd fryniau'r nefol wlad,
Pan fydd holl deimladau'r galon
Wedi derbyn llwyr iachad.

PHILEMON,
Sef MR. ELLIS THOMAS, Utica, N. Y.

ENGLYNION ER COFFADWRIAETH AM Y PARCH.
ROBERT EVERETT, D. D.

Ar ein memrwn mae amryw—wnaent lawer
At loywi dynolryw;
Ac Everett fel y cyfryw,
Mae 'i enw i fod yma'n fyw.

Ei sylw a fynodd sylfaenu—dirwest,
O herwydd ymlygru
Ei genedl,—er ei oganu,
Gwr o farn dyoddefgar fu.

Ond drwy ddal dyfal, y daeth—ei oddef
Iddo 'n fuddugoliaeth;
Ei synwyr yn ei wasanaeth
Enillai'r oes—yn well yr aeth.

Ffrwd y meddwl cyffredin—arafodd
Yn ei ryfyg gerwin;
A thaer fu wrth y werin,
Rhag ofera gyda gwin.

Y cen ar lygaid canoedd—a dyfodd
Nes difa'u galluoedd;
Wrth ei rym, syrthio yr oedd,
A gwell llewych gai lluoedd.

Seren ddydd ein cysuron ddaeth—efo
Ei hyfawl anturiaeth;
Arogl sur o'r eglwys aeth,
Fu rwd dwl i'r frawdoliaeth.