Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/356

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eru! Bydd mwy o Dduw yn cael ei ddangos iddynt yn barhaus—mwy o'i burdeb a'i gyfiawnder, mwy o'i allu a'i anghyfnewidioldeb, ïe, mwy o'i gariad at fodolaeth yn gyffredinol, yn y cospedigaethau tragywyddol a weinyddir arnynt; a bydd y datguddiedigaethau hyn yn helaethu eu rhwymedigaeth, ac o ganlyniad bydd eu troseddau yn fwyfwy ysgeler yn barhaus, a'r ddamnedigaeth yn drymach. O'r tu arall, mor ddedwydd yw meddwl am deulu y nef—bydd y datguddiedigaethau o Dduw yno byth yn amlhau a chynyddu, bydd eu rhwymedigaethau hwythau yn cynyddu, a'u sancteiddrwydd i'r un graddau yn cynyddu hefyd. O sefyllfa ddedwydd! Deddf cariad yn gofyn, egwyddor cariad o'u mewn hwythau yn ateb, a'u dedwyddwch yn llawn.

ADFYFYRDODAU.

1. Dysgwn ddeall seiliau cedyrn, eto anwylaidd, ein cyfrifolaeth, ac ymdrechwn fyw dan y teimlad dedwydd o'n bod yn ddeiliaid o ddeddf cariad ac yn rhwymedig byth iddi.

2. Gwelwn ein hangen am Waredwr—torasom ein rhwymau, aethom yn euog, heb un esgus am y trosedd i'w roi. Diolchwn fod modd cael maddeuant trwy angau'r groes.

3. Ymlawenhaed teulu Seion yn eu gobaith am y nef, lle y bydd ystyriaeth o'u rhwymedigaeth yn helaethu melusder eu dedwyddwch yn ddiddiwedd.