Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/358

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tybiaist tithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun; ond mi a'th argyhoeddaf ac a'i trefnaf o flaen dy lygad." Mae hanes ein byd ni yn profi hyn—yr hanes hynafiaethol Ysgrythyrol a roddir, a phob hanes diweddar a brawf yr un peth.. Nid rhyfeddu a ddylem fod barnau Duw mor arswydol ar ein gwlad y dyddiau hyn, ond rhyfeddu a ddylem am na ddisgynasant yn gynt, yn drymach a mwy cyffredinol. Bu Talaethau ëang yn gweithredu mewn ysgelerderau rhy anweddus i'w darlunio, ïe, y naill haner o'r wlad yn y drwg, ac yn ymchwyddo mewn cyfoeth a ffyniant, a'r gweddill yn mud ddyoddef, a'r Arglwydd yn oedi ei lid gan roddi amser i edifeirwch—diau fod "cymylau a thywyllwch o'i amgylch ef."

2. Pan y mae y rhai sydd anwyl gan Dduw yn cael eu gadael dan drallodion, a'r Arglwydd yn oedi dydd eu gwaredigaeth. Mae ei ragluniaeth ef felly yn aml—rhai anwyl ganddo, mor anwyl a chanwyll ei lygad, rhai sydd yn ei garu ef ac yn cael eu caru ganddo, eto yn dyoddef dan drallodion mawrion—rhai mewn tlodi, rhai dan gystuddiau a thlodi ar yr un pryd, a rhai yn dyoddef yr anghyfiawnder a'r cam mwyaf gan ddynion drygionus a gorthrymus, a'r Arglwydd dros amser yn eu gadael yn y peiriau heb agor iddynt ddrws o ymwared. Fe allai mai dysgyblaeth reidiol sydd ganddo arnynt, i gyrhaedd amcan daionus o'i eiddo ei hun pan nad yw yn amlwg eto iddynt hwy pa beth ydyw, neu fe allai mai ei amcan ydyw dangos (fel y gwnaeth â Job) beth a all ei ras wneyd mewn rhoddi amynedd a chynaliaeth dan drallodion trymion, ac y deuant allan rywdro fel aur wedi ei buro yn tân. Ond pa beth bynag yw y dybenion a'r achosion, "cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef."