Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/377

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan y ferch yn gyffredin fwy a wnelo â'r "oes a ddel" na'r mab, yn enwedig yn y blynyddau boreuaf o oes dyn; ac yn fynych y mae sefyllfaoedd pwysig o'i blaen, nas gall eu llanw yn anrhydeddus a phriodol, heb ei rhagbarotoi trwy raddau helaeth o ddysgeidiaeth.

Trysor i Blant.—Llawer a ddangosant awydd mawr i gasglu trysor i'w plant. Ond yn nesaf at ras cadwedigol yn y galon, y trysor goreu allwn roi iddynt yw ysgol dda yn moreu eu bywyd.

Meddyglyn rhag Anffyddiaeth.—Yr amddiffyniad goreu rhag anffyddiaeth ydyw gwneyd y Beibl yn llyfr ymarferol i ni ein hunain, a bod yn hyddysg yn y ffeithiau a gynwysir ynddo. Anwyl gydgenedl, defnyddiwn ei bethau, a rhodiwn yn ei oleu.

Ymresymu a Gwrthryfelwyr 1861.—Ni waeth ceisio siarad â'r rhuthrwynt a fyddo yn didoi eich tai uwch eich penau, neu siarad â'r arthes, i geisio ganddi ollwng ei hysglyfaeth o'i gafael, na cheisio siarad neu ddefnyddio yr ysgrifell gyda blaenoriaid y rhyfel presenol, i'w hatal yn eu cynlluniau drygionus. Rhaid cael rhywbeth grymusach na'r ysgrifell i enill sylw.

Rhyfel Ymosodol.—Nid ydym dros ryfel ymosodol, fodd yn y byd; ac nid rhyfel ymosodol yw y rhyfel presenol (yn 1861), can belled ag y mae a wnelo y llywodraeth hon ag ef—rhyfel yw y gorfodwyd hi iddo, ac nid oedd ganddi ddim i'w wneyd ond ei wrthsefyll, neu oddef difodiad.

Hawl i Hunan-Amddiffyniad.—Pe ymosodid ar ein bywyd, neu ar fywyd ein teulu, gan lofrudd yn sych-