Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/382

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mor rymus dros ryddhad, fel y byddem agos oll yn crynu gan ofn i fyned at y drws i'r heol, oedd wedi ei hamgylchu gan y fath dorf gymysglyd, rhag cael ein mobio, os nid ein lladd.

Nid oedd hono ond un o fil o engreifftiau trwy yr Unol Dalaethau ar y pryd. Dewrion arwraidd yn eu dydd oedd Dr. Everett, a Dr. Leavitt, y N. Y. Evangelist, &c. "Gad" oedd y Dr., yn wir, a llu yn ei ganlyn. Nis rhaid i mi ddywedyd dim am ei enwogrwydd fel pregethwr a duwinydd, gan ei fod mor adnabyddus. Nid annhebyg i glefyd a gafodd effeithio i raddau ar ei leferydd, hyny yw ar ei nervous system, i beri ychydig o ataliad ar droion ar ei leferydd; ond da gwyddom oll, pan gaffai hwyl, ac nid anaml y byddai hyny, ehedai mewn awel nefolaidd ar y tarawiad i fyny fel eryr uwchlaw pob atal, a chodai ei wrandawyr gydag ef mewn difrifol bleser tua'r nefoedd. Bendith ar ei lwch ef; a diolch i Dduw byth am ei fath ef dros y gwirionedd.

LLEWELYN R. POWELL.

Alliance, O., Awst 28, 1879.

[Ymddengys fod ychydig o gamayniad yn yr erthygl uchod; yr oedd Dr. Everett wedi ei urddo yn Ninbych dros flwyddyn a haner cyn marwolaeth Davies, Abertawe. Rhaid gan hyny mai nid fel myfyriwr o'r Athrofa, ond fel gweinidog Dinbych, yr ymwelodd ef ag Abertawe.]

Y DIWEDD.