Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

galon ddigon dewr i lefaru yn eglur a grymus yn erbyn yr arferiad o gnoi ac ysmygu myglys, ac hefyd yn erbyn yr arferiad o yfed diodydd a gwirodydd meddwol. Yr oedd cryn wroldeb yn ofynol mewn gweinidog oddeutu 45 o flynyddoedd yn ol, er ei alluogi i daflu ei ddylanwad o blaid y mudiad dirwestol, ond gwnaeth y Dr. hyny. Yr oedd y mudiad y pryd hwnw, ac am lawer o flynyddoedd wedi hyny, yn hollol anmhoblogaidd.

Bu Dr. Everett farw wedi byw oes ryfedd o ddefnyddiol. Dywedwn heb ofni cyfeiliorni, fod Duw wedi gwneyd defnydd mawr o hono, ac na fu yn y Talaethau Unedig yma ddim un Cymro o fwy o wasanaeth i'w genedl nag y mae Dr. Everett wedi bod. Yr oedd yn meddu ar alluoedd cryfion a chymwysderau arbenig, a chysegrodd ei hun, gorph ac enaid, i fod yn ddefnyddiol i'w genedl, ac i fod o wasanaeth i ddynoliaeth a chrefydd.

Aeth Dr. Everett yn ei wisg olygyddol i wely angau, fel yr aeth Aaron gynt yn ei wisg swyddol i fynydd Hor i farw. Ni thynwyd y wisg hon oddi am dano hyd onid oedd yn y cerbyd yn myned adref, fel Elias gynt. "Da, was da a ffyddlon."



Pregeth Goffadwriaethol am y Parch. R. Everett, D. D.,

A draddodwyd yn Steuben, Mai 9, 1875,

GAN Y PARCH. WILLIAM D. WILLIAMS, DEERFIELD, N. Y.

JOB 1: 8.—"Nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear."

Gofynir llawer o gwestiynau yn nghylch Job, megys, Pa le yr oedd gwlad Us? Ateb. Mae yn debyg mai yn y rhan ogleddol o Arabia. Pa bryd yr oedd yn byw?