Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

prophwyd Esay, 26: 3. "Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd a'i feddylfryd arnat ti; am ei fod yn ymddiried ynot." Gwelsom ef yn mhen ychydig ddyddiau ar ol llosgiad ei dy, ei ddodrefn, ei lyfrau, a phregethau boreu ei fywyd; yr oedd mor dawel ei feddwl ag arferol, ac yn ddiolchgar iawn i'r Arglwydd eu bod oll fel teulu wedi cael eu cadw yn fyw, ac heb i'r tân eu niweidio. Gwyddai beth oedd cael nerth yn ol y dydd.

5. Nad oes nemawr o'i gyffelyb fel gwrthwynebwr i bechod. Efe oedd y Cymro cyntaf yn Swydd Oneida gododd ei lef yn erbyn y pechod o feddwdod, trwy gefnogi llwyr-ymataliaeth, ac yn erbyn y pechod o gaeth-wasiaeth. Bu yn wrthddrych gwg, gelyniaeth, ac anmharch, o herwydd ei bleidgarwch i ryddid dynol. "Er hyny arhôdd ei fwa ef yn gryf.” Bu hefyd yn flaenllaw yn erbyn y pechod o halogi y Sabboth.

6. Nad oes nemawr o'i gyffelyb fel pleidiwr gwresog a haelionus i bob achosion da. Yr oedd yn bleidiwr gwresog i'r Ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddi, y Gymdeithas Ddirwestol, a'r Gymdeithas Wrthgaethiwol. Gwnaeth a allodd i gael y caethion yn rhyddion, a chafodd eu gweled felly cyn ei farw. Yr oedd ef a'i deulu yn cyfranu yn haelionus at bob cymdeithas ddaionus, megys, y Gymdeithas Feiblaidd, y Gymdeithas Genadol Gartrefol, a'r un Dramor, y Gymdeithas Draethodol, a'r Gymdeithas at roddi addysg i'r bobl dduon yn y De. Yr oedd yn rhoddi mwy na'i allu mewn gwirionedd. Hauodd yn helaeth, ond heddyw y mae wedi dechreu medi mewn gorfoledd.

7. Nad oes nemawr o'i gyffelyb o ran tynerwch teimladau. Wylai gyda'r rhai oedd yn wylo, a llawenych-