Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

9. Nad oes nemawr o'i gyffelyb mewn sobrwydd a difrifoldeb. Yr oedd yn un o'r rhai mwyaf difrifol yn ei gyfeillach. Rhyw bynciau gwerthfawr ac adeiladol fyddai bob amser yn destynau ei gymdeithas. Ni chlywodd neb ef yn adrodd chwedl wael; yr oedd fel pe buasai heb glywed y fath bethau erioed,

10. Nad oes nemawr o'i gyffelyb fel gweddiwr. Yr oedd yn enwog am ei weddiau taerion ar bob achos. Yr oedd fel plentyn gyda ei dad pan yn gweddio. Yr ydym yn ei gofio agos i ddeugain mlynedd yn ol mewn cyfarfod, pan letyem yn yr un ty, fel y dygwyddai yn aml, ac y cysgem yn yr un gwely. Boreu dranoeth cododd ef yn foreu, ac ar ol gwisgo aeth ar ei liniau, a ninau yn effro yn y gwely; ond cyn iddo godi darfu i ni gysgu, a phan ddeffroasom yr oedd ef yn parhau ar ei liniau. Meddyliasom yn y fan am Jacob yn ymdrechu gyda'r angel. Yr oedd ef i bregethu am ddeg y boreu hwnw, ac yr ydym heddyw yn cofio yn dda am yr oedfa hono; wrth ei wrando yr oeddem yn meddwl yn barhaus am ei weddi y boreu hwnw, gan ei fod yn pregethu mor dra rhagorol. "A'th Dad, yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg."

11. Nad oes nemawr o'i gyffelyb fel dysgawdwr. Yr oedd yn rhagori fel ysgolaig. Fel dyn dysgedig, yr oedd o flaen y nifer fwyaf o'i gyfoedion. Meddyliodd Dr. George Lewis ei gael yn athraw ar y Coleg; 'ond symudodd Rhagluniaeth ef i'r wlad hon, a bu hyny yn golled fawr i Gymru mewn llawer ystyr; ond bu yn elw mawr i'n cenedl ni yn America.

12. Nad oes nemawr o'i gyffelyb yn ei goethder fel pregethwr. Fel pregethwr, yr oedd bob amser yn dda iawn, a byddai ar amserau yn nodedig o hwyliog