Tudalen:Cofiant y diweddar Barch Robert Everett.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dalaethau yn ffieidd-dra yn ngolwg yr Arglwydd; ac mai barn ofnadwy a ddelai os na wnelai pobl America lwyr droi heibio y ffieidd-dra hwn; a bod cwpan yr anwiredd yn llenwi gyda'r cyflymdra mwyaf. Yr oedd yn ystyriol fod dyled ar weision Crist i ddweyd yn erbyn pob pechod. Yr oedd ef ac eraill yn credu, ond i eglwys Dduw fod yn onest a ffyddlon, y delai yr holl gaeth-feistri gydag amser yn foddlon o galon i ryddhau eu holl gaethion. Dyna oedd yn ei gadw yn fyw gyda ei waith, ac nid un duedd i enwogi ei hun mewn pethau politicaidd. Ond yn lle gadael eu drygioni, gwnaeth y caethfeistri ymgaledu a phenderfynu mynu yr oruchafiaeth. Heb fod yn faith, cafodd ef ac eraill fu'n rhybuddio y genedl weled y gawod ddinystriol yn dyfod yn ddiarbed, a chafodd y wlad ar ddeall nad yw Arglwydd y lluoedd yn ddisylw o bechodau dynion.

Oblegid fy mod i a rhai o flaenoriaid y gynulleidfa yn Utica yn caniatau i'ch parchus dad, Mr. Alvan Stewart, ac ambell un arall, i ddyweyd eu meddwl ar gaethiwed yn yr addoldy yn Utica, yn awr ac yn y man, ar nosweithiau o'r wythnos, pan nad oedd yn bosibl cael un capel arall na hall at y fath wasanaeth yn yr holl ddinas, cyfododd digter creulawn i'n herbyn gan rai o'r trigolion. Yr oedd y Standard yn cael ei argraffu ar gongl Whitesboro a Genesee y pryd hwnw; ac yr oedd hwnw hefyd yn achlysuro digofaint mawr ac enbyd.

Ryw ddydd Llun cyntaf o'r mis, yn y flwyddyn 1835, dygwyddodd eich tad ddod i'r dref o'r wlad, lle'r oedd ef y pryd hwnw yn aros, a daeth atom ni i'r cwrdd gweddi misol, a phan oeddem yn terfynu y cyf-