Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ogi â'i mam-eglwys yn Rhosymeirch o lafur yr un gweinidogion, erfyniwn ar y darllenydd i droi at hanes yr eglwys hono, lle y gwel gofnodiad o honynt, Rhifedi y gynulleidfa yma ydyw 250, yr eglwys yn 105, yr Ysgol Sabbathol yn 130. Y mae claddfa fechan yn perthyn i'r addoldy hwn, lle y gorphwys lluaws o bererinion mewn tawelwch; yn eu plith y mae gweddillion marwol yr hynaws a'r serchog frawd y Parch. Richard Roberts, Maelog, yr hwn a alwyd i'r winllan yn foreu, ac a noswyliodd yn gynar; yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Symudwyd ef i'r bedd yn ieuanc, ond y mae ei goffawdwriaeth yn fendigedig. Y mae yr hyn a ganlyn ar gareg fedd a berthynai i Tanylan:

M. S.

Margaritea Thomas de Tanylan in Parochia Trefdraeth quae vita decessit 24, Aprilis, A.D. 1783. Aetatis suae 47.

Monumentum hoc erexit amoris ergo dilectus conjux Johannes Thomas generosus, qui postea in mari obiutus est cum 58 aliis e Carnarvonia redeuntibus, 5 Dec. 1785. Aetatis suae 52.

Yn y Gymraeg:

C.G.

Margaret Thomas, o Tanylan, yn mhlwyf Trefdraeth, yr hon a ymadawodd a'r bywyd hwn Ebrill 24, 1783, yn 47 mlwydd oed.

Y gofadail hon o serch, a godwyd gan ei phriod urddasol a haelfrydig, John Thomas, yr hwn wedi hyny a foddwyd, yn nghyd â 53 eraill, wrth ddychwelyd o Gaernarfon, Rhag. 5, 1785, yn 52 mlwydd oed.[1]


CAPEL NEWYDD,

LLANERCHYMEDD.

TYBIR fod yr Annibynwyr yn pregethu yn y lle hwn er's yn agos gan mlynedd. Ymddengys mai mewn tŷ anedd (yr hwn oedd yn wag ar y pryd), mewn lle a elwir yn bresenol y "Walk," y dechreuwyd pregethu. Wedi hyny cymerwyd tŷ arall heb fod yn mhell o'r un gymydogaeth, yr hwn a fuasai unwaith yn dŷ tafarn, a elwid y "White Horse;" rhoddwyd meinciau ac areithfa ynddo, a buwyd yn addoli yn y lle hwn nes yr adeiladwyd capel Peniel, yn y flwyddyn 1811.

Yn agos i 80 mlynedd yn ol, symudodd un o'r enw John James i'r ardal hon; daeth yma o gymydogaeth Pwllheli. Adroddir aml chwedl ddyddorol am dano mewn cysylltiad a'r ddiweddar Mrs.

  1. Cyfeirir yma at y ddamwain alaethus a gymerodd le ar yr afon Menai, pryd y suddodd y treiddfed (ferry-boat) wrth groesi o Gaernarfon i Fon ar y dyddiad uchod. Allan o 55 o bersonau ni achubwyd ond un yn unig.