Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/4

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Er mai "Hanes yr Eglwysi Annibynol yn Môn" ydyw testyn y llyfr hwn, efallai na bydd yn anmherthynasol i'n hamcan i gymeryd bras olwg (mewn ffordd o ragdraeth) ar helyntion Ymneillduaeth o doriad gwawr Anghydffurfiaeth yn Nghymru, hyd sefydliad yr eglwys Annibynol gyntaf yn Ynys Môn, Ar ol merthyrdod yr anfarwol John Penry, ymddengys fod yr enwogion Wroth o Lanfaches, Ebury o Gaerdydd, a Walter Cradoc, wedi bod yn offerynau llwyddianus i hyrwyddo Ymneillduaeth. Ymddifadwyd y gwyr da hyn o'u bywioliaethau yn yr Eglwys Wladol, am iddynt wrthod cydsynio â chais y brenin i ddwyn i ymarferiad y llyfr a elwir yn Llyfr y Chwareuaethau. Cyhoeddwyd y llyfr llygredig hwn trwy orchymyn y brenin Iago I yn y flwyddyn 1617, a gorfodid yr Offeiriaid i ofalu am fod ei gynwysiad yn cael ei ddwyn i ymarferiad o dan eu harolygiaeth. Dywedir i'r llyfr hwn gael ei gyfansoddi gan un o'r Esgobion. Gorchymynid ynddo yn mhlith pethau eraill, "nad oedd gwasanaeth i fod yn yr Eglwys ond y boreu, oddieithr fod angladd; a bod y prydnawn i gael ei dreulio mewn chwareuon a digrifwch." Cyfarwyddai hefyd pa chwareuon oedd i'w harfer, sef, neidio, coetio, codymu, troedio pêl, &c., a chaniateid y pleserau hyn ar yr amod "nad oedd neb i gael uno yn y chwareuon y prydnawn, ond a fyddai yn bresenol yn yr addoliad y boreu;" a'r Offeiriaid, y rhai a ddarllenant y gwasanaeth crefyddol yn y boreu, oeddynt i flaenori yn y campau annuwiol hyn y prydnawn! Hawdd y gellir meddwl fod cyflawni y fath weithredoedd pechadurus ar ddydd Duw, yn achosi llawer o ofid i deimladau tyner a duwiolfrydig y gwyr da a enwyd. Gwrthodasant ufuddhau i orchymyn y brenin, ac o herwydd hyny bwriwyd hwynt allan o'r Eglwys Wladol. Yn y flwyddyn 1639, y sefydlwyd yr Eglwys Ymneillduol gyntaf yn Nghymru, a hono yn Eglwys Gynulleidfaol, trwy offerynoliaeth Wroth a Cradoc yn Llanfaches, Swydd Fynwy. Dyma flaenffrwyth y cynauaf toreithiog a welir yn awr yn y Dywysogaeth.

Yr oedd teyrnasiad Siarl I yn gyfnod tywyll a niwliog ar grefydd. Yr oedd afradlonedd a gwastraff y brenin yn creu gelyniaeth tuag ato yn mhlith aelodau y Senedd, a llygredigaeth ac anuwioldeb ei lŷs yn achosi i'r dosbarth efengylaidd o'i ddeiliaid i'w lwyr ffieiddio. Er ei holl ymgais i geisio ymgymmodi a'r Senedd trwy gynlluniau gwenieithus a chyfrwys, ac er holl ymdrechiadau y dyn taëogaidd ac anhyblyg hwnw Archesgob Laud, i adferyd undeb a heddwch yn yr eglwys, yr oedd y teimlad Puritanaidd yn cryfhau, a'r dymuniad am gael diwygiad trwyadl yn y wladwriaeth yn enill tir. Yr oedd mil-