Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Owen Thomas, Carrog, oedd y gweinidog sefydlog cyntaf a fu yma ; parhaodd i ofalu am yr eglwys hyd y flwyddyn 1822, pan y cymerwyd ei gofal gan y Parch, D. James, mewn cysylltiad â'r Capelmawr. Yn yr ardal hon y magwyd y diweddar Barch. Owen Thomas, Carrog. Yr oedd yn aelod crefyddol yn Rhosymeirch. Er ei fod wedi' symud o'r plwyf hwn i Garrog, gerllaw Llanfechell, cyn adeiladu y capel, eto, efe a fu y prif offeryn i gael addoldy yn y lle. Helaethwyd y capel hwn yn y flwyddyn 1824. Yr oedd wedi myned yn llawer rhy fychan i gynwys y gynulleidfa. Adgyweiriwyd ef drachefn yn y flwyddyn 1846; bu y draul dros £300, ac y mae y cyfan wedi eu talu. Yr unig bregethwr a godwyd yma ydyw y Parch. Robert Evans (Trogwy), Maesglas, ger Treffynon. Mae rhifedi yr aelodau yn bresenol yn 65, yr Ysgol Sabbathol yn 80, y gynulleidfa 120.

HERMON,

LLANGADWALADR.

DECHREUWYD pregethu gan yr Annibynwyr yn yr ardal hon yn y flwyddyn 1813, mewn tŷ o'r enw Penyrallt. Deuai y Parch. Jonathan Powell, Rhosymeirch; a'r Parch, David Beynon, y pryd hwnw o Lanerchymedd, yma yn lled reolaidd i gynal moddion crefyddol.

Adeiladwyd yr addoldy cyntaf yn y flwyddyn 1814, yr oedd y draul arianol tua £40. Cymerwyd gofal yr adeiladaeth gan Mr. William Pierce, Tyddyn y cwc, yr hwn a roddodd y tir i adeiladu arno; Mr. Rowland Jones, Melin wynt, Bodorgan; a Mr. Rowland Roderic, Fachell; yr oedd y gwyr hyn yn aelodau ar y pryd yn y Capelmawr. Wedi myned i'r capel newydd y corfforwyd yr eglwys gan y Parch. Jonathan Powell. Nifer yr aelodau yn y cymundeb cyntaf oedd 10.

Pan gynyddodd yr achos i raddau dymunol, rhoddwyd galwad unfrydol gan yr eglwys, yn y flwyddyn 1818, i'r Parch. Evan Roberts, i ymsefydlu yn eu plith. Ar ol bod yma am ychydig amser, tueddwyd ef i fyned i'r America, a sefydlodd yn Stuben, yn nhalaeth Efrog Newydd. Rhoddwyd galwad drachefn i'r Parch. William Roberts, o athrofa Neuaddlwyd, a neillduwyd ef i waith y weinidogaeth yn y lle hwn yn y flwyddyn 1826; bu farw yn nghanol ei ddefnyddioldeb, yn y flwyddyn 1830. Yn y flwyddyn