Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweinidog i'w arferyd. Ar y 15fed o Fai, 1662, rhoddodd y brenin ei sêl wrthi, ond nid oedd y gyfraith i ddyfod mewn grym hyd Awst 24, yn yr un flwyddyn. Disgynodd y diwrnod penodedig i roddi y ddeddf mewn grym ar y Sabbath ("canys mawr oedd y dydd Sabbath hwnw") sef, "Dydd Gwyl Bartholomew," Gresyn i'r fath anfadwaith gael ei gyflawni mewn cysylltiad âg enw un o ddysgyblion hunanymwadol y bendigedig Iesu! Yr oedd y sawl a ufuddhaent i gymeryd y llwon gofynedig gan y ddeddf hon, yn ardystio eu cydsyniad â threfn gwasanaeth y Llyfr Gweddi Cyffredin, yn nghydag â holl gredoäu ac erthyglau yr Eglwys. Ond, wele ddwy fil o'r gweinidogion mwyaf dysgedig, doniol, a defnyddiol yn yr Eglwys yn gwrthod ardystio eu cydsyniad â thelerau y ddeddf orthrymus hon "aethant allan yn llawen o olwg y cynghor" am gael eu "cyfrif yn deilwng i ddyoddef er mwyn enw yr Arglwydd Iesu" Gadawsant eu bywiolaethau a chyflwynasant eu hunain, a'u teuluoedd i ofal Rhagluniaeth y nefoedd. "Cawsant brofedigaeth drwy watwar a fflangellau, trwy rwymau hefyd a charchar, ac aethant oddi amgylch yn ddiddym, yn gystuddiol, ac yn ddrwg eu cyflwr; y rhai nad oedd y byd yn deilwng o honynt." Gofynwyd i un o'r Anghydffurfwyr gan gyfaill iddo, paham na fuasai yn cydymffurfio â'r gyfraith: atebodd yntau, "Mae genyf ddeg o resymau dros wneyd hyny," ac edrychai yn llygaid ei ddeg plentyn, y rhai yr oedd eu cynaliaeth yn ymddibynu yn hollol ar ei fywiolaeth Eglwysig; "ond," meddai, "y mae genyf un rheswm sydd yn gorbwyso y cwbl yn fy meddwl, sef cydwybod dda; ac o barch iddi, rhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion." Am lalur a ffyddlondeb yr Anghydffarfwyr yn y cyfnod hwnw, y mae un awdwr galluog yn ysgrifenu fel y canlyn: "Y rhai hyn a aethant allan yn ysbryd a nerth Elias, i droi calonau at Dduw, Ymdrechasant yn galed, a llafuriasant yn egniol dros Ymneillduaeth, pan nad oedd ond baban wedi ei daflu ar wyneb y maes, i dosturi y rhai a deimlent ar eu calon ei ymgeleddu, Cewri oedd ar y ddaear yn y dyddiau hyny-dynion "nad oedd y byd yn deilwng o honynt." Siglasant y wlad fel coedwig yn cael ei hysgwyd gan wynt. Torasant ar draws ffurfioldeb a chysgadrwydd yr oes, Dihunasant yr ardaloedd â'u gweinidogaeth. Tafasant belenau tân i "neuadd y cryf arfog, er aflonyddu ei heddwch. Cerddasant "lwybrau disathr," lle na welid ond olion "anghyfanedd-dra llawer oes," a gadawsant ddylanwad ar Walia na ddilea tragwyddoldeb mo hono. Dynion oeddynt nad oedd ganddynt amcan i'w gyrhaedd na phwnc