Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r perwyl gan y diweddar Mr. Owen, Trewyn, a Mr. Jones, Clarach. Yn fuan, aeth y tŷ yn rhy fychan i gynal y gynulleidfa, a phenderfynwyd adeiladu yr addoldy presenol, yr hyn a wnaed yn y flwyddyn 1829. Priodolir dechreuad yr achos hwn i ffyddlondeb y ddau foneddwr uchod, yn nghyda 'u teuluoedd; buont yn dra ffyddlon, ac aethant i gryn draul gyda'r adeiladaeth, ac wedi hyny i gynal yr achos am dymor maith. Arferent gyfranu yn haelionus at bob achos teilwng, ac yn neillduol ar wahanol adegau tuag at ddileu y ddyled oedd yn aros ar yr addoldy, Er fod y ddau wedi eu symud i'r bedd, y mae amryw o'u plant yn aelodau ffyddlon gyda'r Annibynwyr mewn gwahanol fanau; ychydig o honynt yn awr sydd yn nghymydogaeth Hebron. Achos lled wan sydd yma; nid yw yr ardal yn un boblogaidd, ac y mae llawer o symudiadau lled bwysig wedi cymeryd lle yma: rhai aelodau defnyddiol wedi symud i barthau eraill o'r wlad, amryw wedi ymfudo i'r America a lleoedd eraill, ac eraill wedi cael eu symud i'r bedd. Yn flaenorol i'r symudiadau hyn, yr oedd pethau yn llawer gwell nag ydynt yn bresenol. Mae yma amryw yn parhau yn ymroddgar a ffyddlon yn ngwasanaeth eu Harglwydd, ac yn ddefnyddiol gyda gwahanol ranau y gwaith; trwy gymhorth gras y maent yn cyrchu at y nôd, ac yn arddangos graddau helaeth o addfedrwydd i fyd gwell. Swm y ddyled sydd yn aros ar yr addoldy ydyw £60, Nifer yr aelodau yn bresenol ydyw 40, yr Ysgol Sabbathol tua 30, y gynulleidfa yn 60. Mae yr eglwys hon mewn cysylltiad â Llanerchymedd, o dan ofal gweinidogaethol y Parch. John Roberts.

BETHESDA,

LLANFACHRETH.

ADEILADWYD yr addoldy hwn yn flwyddyn 1834, trwy offerynoliaeth y Parch. Thomas Owen, Llanfechell; yr oedd y draul yn ryw gymaint dros £200. Bu Mr. Owen yn hynod o ddiwyd yn casglu tuag ato yn yr ardal hon ac mewn lleoedd eraill, fel y llwyddodd i leihau y ddyled i £160. Nid oedd yn y gymydogaeth hon yr adeg hono, ond dau aelod yn perthyn i'r Annibynwyr, sef Owen Williams, Pen y graig, a'i briod; bu y ddau yn cynal y gyfeillach grefyddol eu hunain, heb reb arall gyda hwy y maent yn parhau yn ffyddlon hyd y dydd hwn, ac wedi cael y fraint o