Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyn dechreu addoli ynddo, yn £30. Nifer yr aelodau yn y cymundeb cyntaf oedd 14. Bu yr achos hwn yn ei gychwyniad yn bur llwyddianus; cynyddodd yr eglwys yn fuan i 35 o aelodau. Tua thair blynedd ar ol dechreuad y gwaith sanctaidd yn y lle, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Owen Owens, un o'r gymydogaeth, i weinidogaethu yn eu mysg. Ni pharhaodd yr undeb hwn yn hir, oblegid ymfudodd Mr. Owens a'i deulu yn fuan i'r America. Ar ol ei ymadawiad, cytunodd yr eglwys â'r frawdoliaeth yn Berea a Phenmynydd, i roddi galwad unedig i'r Parch. Cadwaladr Jones, Ffestiniog y pryd hwnw, i'w bugeilio yn yr Arglwydd; cydsyniodd Mr. Jones â'u cais, a bu ei lafur yn fendithiol i'r tair eglwys. Ar ei ol ef, urddwyd y brawd P. G. Thomas, Hermon, i gyflawn waith y weinidogaeth yn y lle, mewn undeb â Beulah, Arfon, Wedi llafurio am oddeutu 6 blynedd, ymadawodd Mr. Thomas i gymeryd gofal yr eglwys Gynulleidfaol yn Pennorth, sir Frycheiniog: bu yr achos wedi hyny yn dra isel a dilewyrch-dim ond dau neu dri o frodyr, a rhyw nifer cyffelyb o chwiorydd yn ymgynull i'r lle. Deuai y Parch. Richard Hughes, Gwalchmai, yma yn fisol yr adeg hono i "dori bara" i'r ychydig ffyddloniaid, Gofynent yn hiraethlawn yn eu hymbiliau wrth orsedd gras, "Pwy a gyfyd Jacob, canys bychan yw ?" Ar ol noswaith ddu a chymylog, gwelodd Duw yn dda i ymweled â'r ddeadell fechan oedd bron a diffygio, megis â chodiad haul o'r uchelder, Daeth awelon y diwygiad" diweddaf heibio, ireiddiwyd ysprydoedd yr ychydig ddisgyblion, a daeth llaw yr Arglwydd yn amlwg gyda'r weinidogaeth; ymunodd rhai degau â'r eglwys yr adeg hono. Gall yr eglwys hon ddweyd fel Sïon gynt, "Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen." Nifer presenol yr aelodau ydyw 40, yr Ysgol Sabbathol 40, y gynulleidfa yn nghylch 60. Y cyfanswm a gasglwyd yn yr ardal at ddileu dyled y capel ydyw £55, a derbyniwyd £15 allan o drysorfa y Cyfarfod Chwarterol, felly y mae £50 o'r ddyled eto yn aros.

BEREA,

LLANIDAN.

DECHREUWYD Cynal moddion crefyddol rheolaidd gan yr Annibynwyr yn y gymydogaeth hon, yn y flwyddyn 1839. Adeiladwyd yr addoldy yn y flwyddyn 1840, a chynhaliwyd cyfarfod ei agoriad y Sulgwyn,