Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

munol. Y prif offeryn yn nygiad hyn oddi amgylch, oedd y Parch. David Davies, yn awr o Gerygcadarn, swydd Frycheiniog. Yr oedd traul adeiladu yr addoldy yn £250, a thrwy ffyddlondeb di flino Mr. Davies yn benaf, symudwyd yr holl ddyled yn lled fuan. Ni bu tymor Mr. Davies ond byr, ac o'r adeg yr ymadawodd hyd yn bresenol (1862), y mae yr eglwys hon wedi bod yn amddifad o weinidogaeth sefydlog. Parhaodd yr achos i gynyddu o flwyddyn i flwyddyn, yn ngwyneb llawer o anfanteision, hyd nes y mae wedi cyrhaedd safle lled bwysig a dylanwadol. Y mae amryw o Gymanfaoedd yr Annibynwyr yn Môn wedi cael eu cynal yma, a dangoswyd llawer o diriondeb a charedigrwydd tuag at yr achos gan y trigolion yn gyffredinol, ar y cyfryw amserau. Mae y gynulleidfa gyda'r blaenaf mewn ffyddlondeb ei chynulliadau, ac yn ei chyfraniadau at yr achos. Y mae ffyddlondeb a gweithgarwch yn ffynu yn yr eglwys. Oni buasai diwydrwydd a diysgogrwydd y cyfeillion o blaid yr achos yn y lle, nis gwelsid yr olwg ddymunol a gobeithiol sydd arno yn bresenol. Nifer yr aelodau ydyw 83, yr Ysgol Sabbathol 70, y gynulleidfa 120. Un pregethwr a godwyd yma, sef y Parch. Rowland Williams (Hwfa Môn), Bethesda, Arfon. Aelod o'r eglwys hon ydyw y brawd Mr. Hugh Thomas, yr hwn sydd yn adnabyddus i holl eglwysi y sir fel dyn defnyddiol a phregethwr cymeradwy.

MORIAH,

GWALCHMAI.

DECHREUWYD yr achos Cynulleidfaol yn y lle hwn yn y modd canlynol. Yr oedd yma bedwar o frodyr crefyddol a thair o chwiorydd yn aelodau o eglwys Salem, Bryngwran. Yr oeddynt yn arfer myned i Fryngwran ddwy waith bob Sabbath, ac felly yn teithio 10 milldir o ffordd o leiaf. Eu henwau ydynt, Evan Griffith, Siop; Edward Williams. Hugh Thomas, Robert Owen, Elizabeth Owen, Mary Lewis, ac Elinor Williams, Tua'r flwyddyn 1844, cymerwyd tŷ anedd yn Ngwalchmai gan Mr. Evan Griffith, i gynal moddion crefyddol ynddo, a buwyd yn addoli yma am yn agos i ddwy flynedd. Corfforwyd yr eglwys yn y lle hwn, o'r personau rhag-grybwylledig, ac ychwanegwyd amryw o'r newydd atynt. Yn y flwyddyn 1845, prynwyd darn o dir gan un Hugh Jones, cigydd, a thalwyd am dano gan Mr. Evan Griffith, ac adeiladwyd yr addoldy presenol arno. Cynaliwyd cyfarfod