PENNOD VIII
HEN DDIWYDIANNAU
I
YN yr hen amser oedd tyddynnwr yn cynhyrchu digon ar gyfer ei holl angenrheidiau ef a'i deulu bron ar ei dyddyn ei hun—ei fwyd, a'i ddillad, a'i esgidiau. Gallai baratoi crwyn yr anifeiliaid a laddai i wneud esgidiau, a'r adeg honno byddai'r crydd yn chwipio'r gath fel y teiliwr. Ac yr oedd y cwbl o'i fwyd yn tyfu ar y tir, a'i holl ddillad yn cael eu gwneud o'i lin a gwlân ei ddefaid.
Ni wn ond y nesaf peth i ddim am ledr a'i wneuthuriad, er bod un barcdy yng Nghwm Eithin yn fy nghof i, ond y mae swyn neilltuol i mi yn "nefaid mân y mynydd " a'u gwlân, y defnydd a wneid ohono, a'r modd y trinid ef yn yr hen amser gynt. A chan ei fod wedi bod yn brif ddiwydiant Cymru am oesoedd, ni fyddai hanes bywyd gwledig Cwm Eithin, lle y mae miliynau o ddefaid wedi byw, agos yn gyflawn heb ddisgrifiad pur fanwl o'r dull a'r modd y trinid y gwlân yno.
Pa mor hen yw y diwydiant gwneud brethyn a gwlanen yng Nghymru, mae'n anodd iawn dywedyd, na pha fodd y gweithid ef ar y cyntaf. Diau mai digon garw ac anghelfydd ydoedd. Anodd hefyd gwybod o ba le y daeth y gelfyddyd i'r wlad hon.
Dywaid Dr. Caroline Skeel, mewn erthygl ar y " Welsh Woollen Industry in the Sixteenth and Seventeenth Centuries," yn Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr, 1922, "In the fourteenth century Fulling Mills were introduced, and cloth began to be woven on a considerable scale." Amlwg y bu adfywiad ar y fasnach ar yr adeg honno. Ond yr oedd brethyn a gwlanen yn cael eu gwneud oesoedd cyn hynny. A gorffennid trwy fyned ag ef i lan yr afon i'w sgwrio. Ond y mae'n amlwg na chadwodd pandai Cymru eu safle, a dywedwyd wrthyf gan un a fu yn y fasnach yn hir, mai dyna'r rheswm i'r fasnach ddiflannu o Gymru lle y dylasai flodeuo yn anad unman.
Mewn erthygl yn Archaeologia Cambrensis, Mehefin, 1924, "The Welsh Woollen Industry in the eighteenth and nineteenth Centuries," rhydd Dr. Caroline Skeel restr o'r trefi a'r dinasoedd lle y gwerthid y brethynnau Cymreig, ac enwa nifer o wledydd tramor yr anfonid llawer iddynt, a'r symiau mawr o arian a