Tudalen:Cwm Eithin.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwaith. Cyfeiria Dr. Skeel at streic yn rhyw ran o Loegr ymysg y cardwyr tua diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg neu ddechrau yr ail ar bymtheg, yr hyn a ddengys eu bod yn bur lluosog ac yn meddu cryn ddylanwad


Ceid dwy neu dair o ffatrioedd ym mhob ardal. Yr oedd cryn nifer yng Nghwm Eithin. Digon amherffaith oedd y peiriannau yn fy nghof i—y chwalwr, a adnabyddid wrth ei enw clasurol y cythraul," a'r injan neu y rowlars i wneud y gwlân yn rholiau. Bûm lawer tro, wrth fyned â gwlân i'r ffatri, yn gwylio y rholiau yn dyfod allan o'r injan, ac yn disgyn i gafn o'r tu ôl iddi, cafn tebyg i'r dil a fyddai yn yr hen dai i ddal canhwyllau brwyn, ond ei fod yn fwy. Nid wyf yn cofio cardio yn y tai, gan fod y ffatri wedi ei ddisodli. Diau mai'r droell law a ddefnyddid yn y ffatri ar y cyntaf. Un werthyd oedd i honno, ond yr oedd y droell arall yn llawer o'r