Fel y canlyn y dywaid y Parch. D. G. Williams, Ferndale, yn ei draethawd ar Lên Gwerin Sir Gaerfyrddin, a gyhoeddwyd yn 1898 gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol:—
Ymddengys i'r "fedel wenith " fyw yn hwy yn y rhannau dwyreiniol a gogleddol o'r sir nag yn y rhannau gorllewinol. Cefais i ei hanes gan rai a fuont lawer gwaith ynddi.
Trefnai nifer o amaethwyr yn yr un ardal i beidio a thorri eu gwenith yr un dydd fel y gallent gynorthwyo eu gilydd. Felly deuai nifer fechan o bob fferm yn yr ardal, yn gystal ag ereill a allent weithio ar y cynhauaf, ynghyd at eu gilydd ar ddydd penodol, fel ag i orffen torri a rhwymo gwenith un fferm mewn un dydd. Erys arferiad debyg eto mewn grym yn rhai parthau o'r sir gyda'r gwair. Ceisia y ffermwyr ddeall eu gilydd i beidio a lladd eu gwair yr un dydd, fel y gallont oll roddi cymorth i'w gilydd i gael un lladdiad i fewn mewn un diwrnod. Felly y gwneir hefyd gydâ chneifio defaid yn yr ardaloedd mynyddig. Dwy ffurf yw y rhai hyn ar gymhortha" y dyddiau presennol.
Yn y "fedel wenith "er's llawer dydd byddai dau, gwrryw a bennyw ar yr un grwn:[1] mewn gryniau bychain y byddid arferol o aredig y tir. Ai y gwrryw yn gyntaf, ac yr oedd yn ddealledig ei fod ef i gymeryd ychydig yn fwy o led " na hanner y grwn bach fel y gallai y wraig yn rhwydd gymeryd y gweddill. Os byddai y ferch yn gref a'r bachgen ar yr un grwn a hi yn digwydd bod dipyn yn ieuanc neu yn wan, cymerai y ferch yn wrol le a lled arferol y gwrryw.
Yr oedd swper da i fod noson y fedel wenith fel yr oedd y noson y gorffenid medi. Yr oedd poten o fath arbennig i fod y noson hon; ei henw oedd whipod." Gwnelid hi fyny o reis, càn, resins, cwrens, triagl, ac ychydig ddefnyddiau ereill. Byddai cwrw, wrth gwrs, yn awr ac yn y man, yn cael ei rannu drwy y dydd rhwng cwmni'r fedel wenith.
Wedi gorphen swper, cydunai'r holl gwmni mewn chwareu— yn difyr. Dai Shon Goch" a "Rhibo " oeddynt ymhlith omwyaf poblogaidd o'r chwareuon hyn.
Chwareu Dai Shon Goch ydoedd fel y canlyn:—Gwisgai dau, yn ferched neu yn fechgyn, mewn hen ddillad carpiog. Cedwid dillad yn gyffredin gan bobl y fferm ar gyfer hyn. Wedi ymwisgo, deuai y ddau allan i'r ysgubor. Rhoddir
- ↑ "Cefn" y gelwid "grwn" yng Nghwm Eithin.—H.E.