ond gan fod y col wedi sychu a breuo yr oedd yn hawdd ei dorri oddi wrth y gronyn, a byddai'r haidd yn tatsio rhwng y cyllyll ac yna yn barod i'w nithio.
Diwrnod mawr oedd diwrnod nithio. Yr oedd y machine nithio wedi dyfod i arferiad yn y rhan fwyaf o'r ffermydd pan gofiaf gyntaf. Gyda honno, ond ei throi a thywallt yr ŷd i mewn, hi a'i gwahanai,a deuai'r grawn, y gwehilion, a'r manus allan ohoni trwy hoprenni gwahanol. Ond y wyntyll hen ffasiwn oedd yn fy nghartref i. Gwelais rai yn ceisio nithio tipyn yn y gwynt trwy daenu cynfas neu huling ar lawr a gollwng yr ŷd yn araf a thenau dros ymyl y gogor fel y chwythai'r gwynt y manus ymaith. Gwneid hynny mewn ambell le bychan lle nad oedd ond ychydig o ŷd na'r un wyntyll at y gwaith. Credaf mai'r wyntyll oedd gennym ni oedd y math cyntaf a wnaed yn oesoedd bore hanes—hynny yw, mai dyna oedd dull y wyntyll gyntaf. Gwneid hi o ddau bost oddeutu pum troedfedd o uchter. Yr oedd raelsen yn y top a'r gwaelod i gysylltu'r ddau bost â'i gilydd, ryw bedair troedfedd oddi wrth ei gilydd; darn o bren tua deunaw modfedd o dan bob post i wneud traed fel y safai i fyny yn gadarn; yna tua chanol y ddau bost, darn sgwâr o bren oddeutu pedair modfedd o dewdra yn cyrraedd o'r naill bost i'r llall, ecstro byr ym mhob pen a handlen ar un ohonynt, a styllen wedi eu hoelio ar ddau sgwâr y pren; ac ar ymyl allan pob un o'r rhai hynny, un ochr o sach wedi ei hoelio i wneud labedi. Wrth y raelsen uchaf yr oedd bwrdd o ryw bedair styllen naw modfedd o led yn cael ei sicrhau â'i osgo ar i lawr wrth ben y labedi. Tra byddai un yn troi y wyntyll â'i holl egni fe ollyngai un arall yr ŷd o ogor i lawr y bwrdd yn denau; disgynnai'r grawn trwm yn ymyl y wyntyll, y gwehilion—neu'r tinion, fel y gelwid ef fynychaf—ychydig ymhellach; a'r us neu'r col haidd yn bellach drachefn, a phob rhyw bum munud byddai raid cymryd ysgub i symud yr us a'r gwehilion rownd y twr, neu deuai'r grawn ar ei gefn fel y cynhyddai'r twr. Hoffai rhai waith dyrnu yn fawr. Fe fyddwn innau yn dygymod yn iawn ag ef ar ddiwrnod oer ystormus, ond os byddai raid dyrnu ar ddiwrnod braf yn y gwanwyn, fel y bu lawer tro, fe dorrwn fy nghalon, ac ni fyddai llawer o'm hôl ar ddiwrnod felly. Erbyn heddiw, mae'r dyrnwr mawr—yr injan ddyrnu—ym mhob man. Credaf fy mod yn cofio'r injan ddyrnu gyntaf yng Nghwm Eithin. "Injan Enoc" y gelwid hi. Yr oedd ef yn arwr mawr yn y Cwm. Bûm yn cario dŵr iddi. Ni wnâi hi ddim ond dyrnu.