y mae'r lle a elwir Bryn-y-Castell, y fan y daethid o hyd i weddillion un o hen felinau y Cymry. I hyn yr attebaf, mai yn mhlwyf Corwen y mae, sef yn ymyl y dref hôno; a gelwir y fan yn fwyaf cyffredin Pen-y-Bryn, neu Benbryn-y-Castell: ac y mae traddodiad yn y gymmydogaeth hono hyd heddyw, fod gynt ar y Bryn dywededig Felin yn malu heb gynnorthwy dwfr, tân, na gwynt; ac felly y dyb yw mai yn ol trefn ysgogiad parhâol (perpetual motion) perffaith yr ydoedd hon yn troi. Dywedir hefyd mai o fewn ychydig amser yn ol y symudwyd y darnau meini oddiyno gan wr boneddig o swydd Gaerllëon. Nis gallaf yn awr gofio enw y gwr na'i breswylfod, er i mi glywed lawer gwaith pan oeddwn yn byw yn Nghorwen.
Cafwyd maen melin o'r dull y sonir genych chwi yn y Rhifyn crybwylledig, o dan y ddaear, yn ymyl Nannau, ymhlwyf Llan Fachraith, yn swydd Feirionydd, yr hwn faen a ddefnyddiwyd wedi hyny yn gafn môch. A chafwyd un arall yn ymyl Ceimarch yn yr un plwyf; ond yr ydoedd hwn yn ddau ddarn: ac y mae hen wr boneddig yn Nôlgellau (Mr. T. Wiliams) yn cofio yr amser y cafwyd hwynt.—Ydwyf,
- Barch. Syr; eich ewyllysiwr da,
- Richard Jones.
- Dôlgellau.
- Richard Jones.
Diddorol iawn yw hanes datblygiad y felin o'r oesoedd bore. Y mae dwsinau o wahanol fathau wedi eu cloddio o'r ddaear, ac y mae edrych ar eu darluniau yn peri syndod. Mae'n debyg mai'r hynaf yw'r garreg wedi ei chafnio ychydig, a lwmp o garreg yn llaw merch i guro a gwasgu'r blawd o'r tywysennau. O hynny hyd felinau dŵr Cwm Eithin, ceir pob math. Mae'n debyg mai'r ferch a roddodd y tro cyntaf i'r felin law; pa un ai mab ai merch a ddyfeisiodd resu dwy garreg, a throi'r uchaf gyda handlen, ni ŵyr neb. Ond ar ôl ei chael mae'n debyg iddi ddatblygu yn bur fuan o ran maint. Ar ôl hynny bu caethion, gwartheg, mulod, a cheffylau yn ei throi cyn cael yr olwyn ddŵr. Dwy garreg wedi eu rhesu a fu'n malu am oesoedd dirif, gyda gwelliannau hyd nes y daeth y roller mill tua hanner canrif yn ôl.
Pa bryd y cymerodd y brenin a'r barwniaid feddiant o'r melinau yn y wlad hon, anodd gwybod. Mae'n debyg mai ar ôl i'r olwyn ddŵr ddyfod i arferiad. Felly y bu am oesoedd lawer. Nid yn unig meddiannai'r barwniaid y tir a'r dŵr, ond y gwynt