PENNOD XII
HEN DDEFODAU AC ARFERION
I
UN o wyliau hynaf Cymru oedd yr Wylfabsant. Mae'n syn mor anodd yw cael ei tharddiad, ei hanes, a'r dull y cerrid hi ymlaen. Ceir digon o gyfeiriadau condemniol ati ddechrau y ganrif ddiweddaf a diwedd y ganrif o'r blaen. Ond beth bynnag oedd hi, diddorol iawn i lawer fuasai darluniad gweddol fanwl ohoni. Yr wyf wedi methu â gweld yr un hyd yn hyn. Clywais lawer o gyfeiriadau ati yn nyddiau plentyndod gan fy nhaid a'm nain a hen drigolion Cwm Eithin. Drwg gennyf erbyn hyn na fuaswn wedi holi rhagor yn ei chylch yr adeg honno, er fy mod wedi holi cryn lawer ar fy nain, oherwydd pan ddeuai rhywun dieithr i'n tŷ ni, clywid hi bob amser yn dywedyd, "Rhaid i ni fyned ati hi i wneud gwely Gw'mabsant.' Gan fod yn debyg nad oes ond ychydig erbyn hyn o'r rhai a fagwyd yng nghymoedd y wlad yn cofio hyd yn oed yr olion hynny, nodaf hwy yn y fan hon.
Mae'n debyg nad oes llawer yn aros a fu'n cysgu mewn gwely gwylmabsant; fe fûm i lawer gwaith. Deuai nifer o ddieithriaid neu berthynasau ar eu hawc i dyddyn bychan yng nghanol. y wlad (ni fyddai pobl yn myned am eu gwyliau yr adeg honno) i edrych am eu cyfeillion a'u perthynasau yn awr ac eilwaith, a deuent fel huddygl i botes heb eu disgwyl—nid arhosent fwy nag un noswaith fel rheol. Yr oedd ymweliad felly yn llawer mwy pleserus na'r dull rhodresgar presennol o anfon rhyw awgrym i ddechrau, yna derbyn gwahoddiad—os daw, ac yna penodi'r amser, paratoi mawr ar ei gyfer, a helynt a stŵr ar ran y gwahoddwr. Yn ôl yr hen arfer, pa mor daclus bynnag fyddai'r tŷ fe gâi'r wraig ddywedyd, "Wel, mi ddoethoch ar ein pac ni a ninnau'n fwy aflawen nag arfer. Jane bach, cliria dipyn ar y llanastr yma. Johnny, dos i—alw ar dy dad; mae ym mhen ei helynt yn y cae pella. Wel, John, ddoethoch chi? Beth yn y byd a wnaeth i chi roi'r hen gôt garpiog yna am danoch a chynnoch chi un arall? A 'blaw hynny, fyddwch chi byth