hagr—bygythiol! Ond o dan ei gên, y mae'r Hafod. Hên dy hirgroes, heb weled erioed galch ond o bell yw'r lle: ond awn i mewn. Mae yno groeso calon i bob gwyneb byw bedyddiol. Y mae hynny yn rhywbeth onid ydyw? Nid ofnem na chaem weled peth newydd—mae pob peth i'r teithydd yn newydd pan y mae yn y mynyddoedd. Sut le yw'r Hafod? Y mae yno globen o gegin fawr, a simneu gymmaint a pharlwr go lew: a thwll mawn ddigon o faint i roi gwely ynddo pe buasai angen. Pan gurasom yn y drws fe'n hattebwyd yn gyfarthiadol gan ryw haner dwsin o gorgwn blewog, a dau ddaear-gi neu dri. Ond daeth rywun at y drws, a chawsom wrth ysgwyd llaw ysgwyd calon hefyd: nid ryw hên ddefod lugoer moni hi yma; ond y mae y galon i'w theimlo yn curo yn y bysedd ac yng nghledr y llaw. y Wedi cael maidd a brechdan fara ceirch teneu, yr ydym am drin y byd ei helyntion a'i gofion. Y mae'r tân yn olwyth, a'r flammau yn chwyrnu wrth ymryson esgyn! Ninnau, ddau ohonom, yn eistedd mewn dwy gadair freichiau; un o dderw du, a'r llall o fasarn gwyn. Gyferbyn a ni, sef yw hynny am y tân, yr oedd f'ewyrth Rolant, yn siarad ac ar yr un pryd yn trin ei ysturmant. Y mae modryb Gwen a'i golwg lawen tua'r cwppwrdd tridarn yn chwilio am gwyr i rwbio bwa ei ffidil; ac y mae'r mab hynaf yn cyweirio ei delyn yn ymyl y bwrdd mawr. debyg i hên wydd yn clegar am geiliogwydd y byddwn yn ystyried nâd annifyr y Glarioned bob amser; etto yn yr Hafod,—yng nghesail y mynyddoedd, yr oeddym yn foddlon i ddigymmod hefo unrhyw fath o offer cerdd. Wedi dodi'r canwyllau yn eu lleoedd priodol, a thaclu'r. Er mai pur tân a rhoi pob peth yn ddel ac yn deidi, cafwyd unawd ar yr ysturmant gan ŵr y tŷ. Er fod pren almon wedi blodeuo ar ei ben er's llawer blwyddyn, ac ôl ewinedd miniog amser ar ei ruddiau; etto chwareuai ei offeryn bach yn dda ddigrifol.—Twt Roli," ebe Modryb Gwen, dyro'r goreu iddi hi bellach; tyr'd am Ddifyrwch Gwyr Dyfi," ebai wrth y Telynor, a deuawd cywrain a gawsom; ac ar ol hyn caed Cyd-gân: yr ysturmant a'r delyn y crwth a'r glarioned: y ffeiff a thwmbarîn gan Deio Wmffra! Yr oedd y tŷ yn dadsain, a phawb yn gwneyd ei waith fel y dylasai. Ar hyn dyma rywun yn curo yn drws, a phwy oedd yno ond Deio Puw. Hên law digrif iawn. Byddai yn d'od i'r Hafod bob rhyw dair wythnos yn gylch er's cryn ddeugain mlynedd,
Tudalen:Cwm Eithin.djvu/171
Gwedd