iach diwedd Mehefin a dechrau Gorffennaf, a chael defnydd sanau iddi hi a'i phriod, a moddion i beidio â dal ei dwylo. Ystyriai'r hen bobl nad oedd dim mwy niweidiol i ferch newydd briodi na dechrau dal ei dwylo
Yr oedd cylchdeithiau gwlanwyr Cwm Eithin, fel rheol, yn rhyw dair neu bedair milltir o gylch eu cartrefi; ond yr oedd eitheindau. Ai ambell un dros y mynydd. Yr oedd llawer o ffyrdd gan wragedd ffermwyr i estyn y gardod; ambell un yn sarug a chybyddlyd. Weithiau ceid gwraig garedig a'i gŵr yn gybyddlyd. Yr adeg honno, byddai'n rhaid i'r wraig wasgu'r tusw gwlan yn glepyn bach caled os byddai'r gŵr yn ei gwylied yn estyn rhodd, rhag iddo edrych yn llawer. Dro arall ceid gwraig gybyddlyd, a gŵr rhadlon. Y pryd hwnnw chwelid y tusw allan i edrych yn fawr. Ond fel rheol pobl garedig oedd gwŷr a gwragedd Cwm Eithin, ac estynnid y rhodd yn llawen.
Cofiaf yr hen ddefod o wlana yn dda iawn; gwelais lawer o'r gwlanwyr ar eu teithiau. Goddefer imi roddi darlun o un o'r gwlanwyr wrth ei henw, sef Mari Wiliam, Pen y Criglyn. Nid wyf yn meddwl ei fod yn unrhyw ddirmyg ar neb ddywedyd iddi fod yn gwlana. Bu aml santes loyw wrth y gwaith. Yr oedd gan Mari Wiliam amryw deithiau i wlana-rhai o gwmpas ei chartref, a thros y Fynyllod ac oddi yno i Gwm Annibynia;[1] rhai y gallai eu gwneuthur mewn diwrnod a dychwel yn ôl at y nos. Ond am y daith y soniaf amdani, yr oedd yn un faith iawn-o chartref i flaen un o ganghennau hwyaf Cwm Eithin, pellter o tua phymtheng milltir. Pan fyddai'n mynd i'r daith honno, ni alwai yn y ffermydd o gylch ei chartref. Dechreuai o du ucha pont neilltuol gyda'i chefnder, gan gadw ar ochr cilhaul i Gwm Eithin wrth fynd i fyny nes cyrraedd yn agos i'w dop. Croesai ef ychydig yn uwch i fyny na chartref ei chyfnither, lle'r arhosai am noswaith o dan ei " Chronglwyd." Yna deuai i lawr ar ochr ogleddol. Nid wyf yn sicr pa mor uchel yr âi Mari i'r cwm uchaf, a âi hi'n uwch na giât Rhyd Olwen yng Nghwm Mynach, ai peidio; ond gan y byddai yn troi a throsi o'r naill ffarm i'r llall, diau y cerddai tua thrigain milltir ar y daith hon.
Diau fod mwy nag un rheswm paham yr âi Mari Wiliam mor bell oddi cartref. Un, mae'n ddiau, oedd ei bod o dueddiad crwydro tipyn o gwmpas, ac yr oedd yn gwmni difyr. Câi groeso mewn llawer man. Heblaw'r sach oedd ganddi i gario
- ↑ Ceir hanes Cwm Annibynia yn y bennod nesaf.