"Er cymaint gŵr oedd Moses,
Mae'r Iesu'n fwy, medd Duw !
Mae Moses wedi marw,
Mae'r Iesu eto'n fyw.
Ni welais neb mor fedrus
Ag Iesu am drin fy nghlwy,
A chan ei fod fath feddyg
Ffarwel i Moses mwy."
A chanwyd ef gyda hwyl.
Yr oedd y Seiat yn bur boblogaidd yn Ein Capel Ni. Byddai braidd yr holl aelodau yn ei mynychu. Ar ôl gwrando'r plant yn dywedyd eu hadnodau a'u holi'n bur fanwl ar adnod y testun ac ar y bregeth (yr oedd y rhan fwyaf ohonom yn ysgrifennu'r testunau a'r pennau), gofynnai un o'r blaenoriaid am air o brofiad, a dechreuai un o'r brodyr neu'r chwiorydd, bron yn ddieithriad, ohonynt eu hunain. Cwyno llawer ar eu bywyd diffrwyth y byddai'r hen saint a'r saint ieuainc, ond yr oedd eu profiad yn real iawn, mi gredaf. Dywaid rhai: Pa ddiben i blant wrando peth felly, nad ydynt yn deall dim ohono? Ond mi gredaf oddi ar fy mhrofiad fy hun fod plant yn deall profiad crefyddol yn dda iawn, a bod ei wrando yn gwneud argraff ddofn iawn ar eu meddwl. Anaml iawn y gallai'r un o'r chwiorydd ddywedyd ei phrofiad heb dorri i lawr i wylo'n hidl oherwydd ei diffyg cariad at, a ffyddlondeb i'r, Gŵr a garai mor fawr. Yr hen chwaer hynaf oedd yno, Sali, Tŷ Tan y Berllan, fyddai'r orau am fedru dal i ddywedyd ei phrofiad heb wylo. Hen chwaer olau yn ei Beibl, o gynheddfau cryfion, blaen ei geiriau, ond torrai hithau i lawr yn lân weithiau. Yr oedd y blaenoriaid yn fedrus iawn i ddefnyddio'r Balm o Gilead i wella'r clwyfau.
Yn Ein Capel Ni yr oedd yr Ysgol Sul orau yn yr holl gwmpasoedd. Gyda dosbarth y plant lleiaf byddai'r hen frawd arall a arferai eistedd yn yr allor, Richard Jones, neu'r "hen dynnwr clustiau," fel y galwem ni ef. Ei ddull oedd rhoddi gwers i un ohonom ar y tro, ac oni byddai'r gweddill yn edrych ar eu gwersi gafaelai yn eu clustiau gan roddi hanner tro a phlwc sydyn. Cadwai hynny ni mewn trefn ac i edrych ar ein gwersi. Gellir adnabod y rhai a fu yn ei ddosbarth wrth hyd eu clustiau a'r hanner tro sydd ynddynt. Er y cyfan, byddem ni yn hoff iawn ohono. Nid hen ŵr cas ydoedd, ond yr oedd direidi yn llond ei groen. Llawer tro y cymerodd fi adref gydag ef i de,