gwelaf fod Ap Cenin yn ei ddefnyddio wrth ysgrifennu hanes Llanfairfechan.
Ar dudalen 12, wrth sôn am yr arwres o Dŷ Cerrig, a gadwodd ei theulu rhag newyn trwy weu tair hosan y dydd, dywedais, "Dylai ei henw hi a llawer un debyg iddi gael ei gerfio yn y graig â phlwm, ond methaf yn lân yn awr â bod yn sicr o'i henw, Phebi Jones, Tŷ Cerrig, yr wyf yn meddwl, onid wyf yn cymysgu, ac mai dyna oedd enw gwraig Richard Jones, etc." Yn ffodus iawn, mae Mr. J. Clark Jones, Mochdre, wrthi ers blynyddoedd yn hel achau pobl Cwm Eithin, a chefais enw yr arwres ganddo a'i hanes. Sioned Roberts oedd ei henw, gwraig Thomas Jones, Pen y Gaer Bach, ac yno yr oedd yn byw pan gadwodd ei theulu rhag y newyn du. Yr oedd Thomas Jones, ei phriod, yn ewythr frawd ei dad i Jac Glan y Gors. Yr oedd tri Phen y Gaer pan gofiaf y lle,—Pen y Gaer Dafydd, Pen y Gaer Thomas a Phen y Gaer Evan Huws. Pen y Gaer Bach oedd enw gwreiddiol Pen y Gaer Thomas.
Anfonodd Mr. Jones lawer o hanes Phoebe gwraig Richard Jones i mi hefyd. A chan fod yr hanes yn taflu llawer o oleuni ar y modd y byddai'r twrneiod o Lundain yn trin ein tadau a'u mamau, rhoddaf yr hanes i mewn fel y cefais ef gan Mr. Clark Jones. Gwelaf hefyd fod Sioned Roberts o'r un teulu â Pheter Ffowc, Ty Gwyn, y soniaf amdano yn Helynt yr Arian Mawr ar dudalen 59.
"Gwraig Richard Jones, Tŷ Cerrig, Llangwm, oedd Phoebe, merch ieuengaf John Jones, Tŷ Cerrig,—gorŵyr i Thomas Ffoulkes, Tŷ Gwyn.
"Ganwyd John Jones yn 1750, a bu farw yn 1833, ac adweinid ef yn ei ddyddiau olaf fel "John Jones, White Bear." Ei wraig gyntaf (mam Phoebe) oedd Mari, merch John Jones, Y Groesfaen, a'i ail wraig oedd Catherin Maurice, gwraig weddw ag iddi fab wedi tyfu i fyny o'r enw Richard Maurice, Penucha, Sir Fflint.
"Yr oedd John Jones yn berchen stâd helaeth,—tua dwy a r bymtheg o ffermydd ym mhlwyfi Gwyddelwern, Corwen, Llangar, Llanfawr, Llangwm a Llanfihangel-glyn-myfyr,— ac yn ei ewyllys, ddyddiedig Mawrth 23, 1833, ar ôl darparu ar gyfer ei wraig, gadawodd y cwbl, ynghŷd â'i eiddo personol, i ddau o ymddiriedolwyr,—Richard Maurice, mab ei ail wraig, a John Jones, Cynlas,—er budd ei blant a'i ŵyrion,