Tudalen:Cwm Eithin.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr unig nwydd rhad at angen teulu y mae'n debyg oedd y glo. Y mae'n fy meddiant ddau docyn yn dangos ei bris, un am tua 1840 a'r llall am 1853. Fel y gwelir, yr oedd y glo yn rhad iawn y pryd hynny; diau ei fod yn rhatach yn 1815.

Ni wn beth a feddylid yn ein dyddiau ni pe gellid cael glo am y pris uchod. Ond nid oedd pris y glo nac yma nac acw i drigolion Cwm Eithin. Mawn a losgai y mwyafrif y dyddiau hynny, a chael bwyd oedd y pwnc mawr. Clywais aml stori pan oeddwn yn blentyn a rwygai fy nghalon wrth ei gwrando, a greai ynof ofn a braw, ac a wnâi imi deimlo'n wasaidd iawn ar un llaw, ac o'r ochr arall a greodd ryw atgasedd ynof at ryw ddosbarth o bobl, yn enwedig y tirfeddianwyr a'r ystiwardiaid. Rhoddaf un hanesyn sydd yn aros yn fyw iawn yn fy nghof. Yn yr hen amser gynt, yr oedd gweu yn un o brif ddiwydiannau Cymru, os nad y prif un, yn enwedig ymhlith y merched. Medrai pob merch weu, a chadwyd llawer teulu rhag newynu trwy fedrusrwydd y fam a'r merched i weu. Medrai y tad a'r meibion hefyd ar y grefft, ac nid peth anghyffredin oedd eu gweled hwythau yn treulio "wedi-bo-nos" y gaeaf bob un gyda'i hosan, yn cynorthwyo'r merched i gael ychydig o ddwsinau o barau yn barod i fynd i ffair neu farchnad i gyfarfod y saneu-