Tudalen:Cwm Eithin.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"'Mi mau llong fawr yn llawn o flawd wedi glanio'n Mrauch y Pwll. Nana Wyn pia fo, ag mau o am roi peth i bawb. Cer yno, Mari Sion, fyddi di ddim gwerth yn mund. Mau yno damad o fwud i bob un gaul hefud. Mau o wedi rhostio dau yidion yn gyfa. Mi gwelis i nhw wrthi. Cousa hi, Mari, tros y Foul Bouth. Fedar Syr Wmffra Garanhir ddim y'n llwgu ni eto, marcia di, Mari. Dyma i ti wicsan fechan ges i; buta hi. Mau yno lond sacha lawar o honun nhw. Mi rwi ti wedi son llawar na nyiff yr Arglwydd ddim anghofio i addewidion. Mi ddyliwn i nad ydi o ddim am nyud chwaith. Cousa hi. Mau arnai isio mund i wadd pobol yno"

Ffarmwr cyfrifol oedd Robert Sion o'r Gilfach; gŵr yn meddu calon dyner a da, caredig iawn wrth y tlawd. Ond erbyn yr adeg y sonnir amdani, yr oedd cistiau blawd y Gilfach yn wag, a Robert Sion a'r teulu yn dioddef gwasgfa y newyn tost. Dylai pawb a fyn wybod hanes cyni Cymru ddechrau y ganrif ddiweddaf ddarllen y llyfr hwn.[1]

Goddefer un hanesyn arall am yr un cyfnod y gallaf roddi fy ngair dros ei gywirdeb llythrennol. Bu farw yn Bootle, yn 1918, hen foneddwr wedi croesi ei bedwar ugain oed amryw flynyddoedd, gŵr craff a chofiadur da, sef y diweddar Mr. Robert

  1. Am ragor o hanes caledi'r amseroedd gweler Seren Tan Gwmmwl, "Jac Glan y Gors," 1795 (argraffiad newydd, 1923); Gweithiau "S.R.," 1856; Oes a Gwaith y Parch. Michael D. Jones, gan Dr. E. Pan Jones, 1903; Atgofion "Ap Fychan" yn ei Gofiant, gan Michael D. Jones a D. V. Thomas, [1882]; Cwyn yr Hen Wr Methiant, gan " Dafydd Ddu Eryri," yn Corph y gaingc, 1810; Hynafiaethau Llandegai, gan Hugh Derfel Hughes, 1866; Caledwch yr Hin, gan " Peter Llwyd o Wnodl " (Y Gwyliedydd, Chwefror, 1823); Diosg Farm: a sketch of its history during the tenancy of Jobn Roberts and his widow, by a Llanbrynmair Farmer (h.y. Samuel Roberts), 1854; Cofiant Hiraethog, gan " Scorpion" a " Dewi Ogwen," 1893, ac Anerchiad Henry Richard ar Ormes y tir feddianwyr ac eraill, a draddodwyd yn Concert Hall, Liverpool, Chwefror 4, 1853, wrth sefydlu Cymdeithas Ddiwylliadol Gymreig. Cyhoeddwyd yr olaf yn bamffledyn. Cofiant Thomas Gee, gan yr Athro Thomas Gwynn Jones, 1913. The Land Question and a Land Bill, with special reference to Wales, by R. A. Jones, B.A., 1887. Mae llyfr R. T. Jenkins, Hanes Cymru yn y ddeunawfed ganrif, 1928, a gyhoeddwyd gan Fwrdd Gwasg y Brifysgol, yn rhoddi darlun clir o fywyd Cymru yn y ganrif honno.