i dalu dim ond swm neilltuol. Ar ôl hynny byddai yn codi. Gallent eu talu ar ddwywaith neu dair. Ymddangosai i Mr. Bowen fod Mr. William Syth, y crefftwr, yn gwybod cryn lawer am achau y gymdogaeth, ac mai buddiol fyddai ei benodi i'w gynorthwyo ef i wneud ymchwil bellach, a gallai ef alw gyda'r rhai a ddymunai gael rhan o'r arian mawr pan ddeuent. Nid oedd eisiau pwyso ar neb, ond dylid cofio na chai neb gyfran pan ddeuent oni fyddai ei enw ar restr yr ymgeiswyr, ac wedi talu ei gyfran at y costau. Credai na fyddai y costau yn fwy na phunt ar gyfer pob ymgeisydd os ceid nifer go dda; a gallai Mr. Syth dderbyn yr arian bob yn bumswllt os byddai yn fwy cyfleus i rai eu talu felly. Dechreuodd yntau ar ei waith, yn gyntaf trwy fynd i'r ffeiriau a'r marchnadoedd â golwg foneddigaidd a phwysig arno, â'i ffon a'i fenyg. Ac edrychai mor ddidaro ag y medrai am gael enw neb, oherwydd yr oedd yr arian yn siŵr o ddyfod. Ac yr oedd y lliaws yn estyn y pumswllt cyntaf a'u henwau iddo. Ond yr oedd yno nifer o anffyddwyr yn y Cwm, hynny yw rhai â diffyg ffydd yn yr arian mawr, neu yn rhai oedd yn cofio ceisio amdanynt o'r blaen. Ac yr oedd eisiau eu cael hwythau i mewn. A gwelodd Mr. Syth cyn hir y byddai raid iddo fynd o gylch y tai i berswadio y rhai hyn; a bu wrthi yn ddygn iawn yn cerdded o gylch y Cwm, yn ofalus iawn i ddangos mai er mwyn y bobl eu hunain y galwai. Yr oedd yr "Arian Mawr " yn siŵr o ddyfod, a gresyn i neb fod heb ei ran. Yn ffodus yr oedd fy nain yn un o'r anffyddwyr. Yr oedd hi mewn gwth o oedran ar y pryd. Credid gan lawer ei bod hi yn un o'r perthynasau agosaf i'r hen Beter Ffowc, o'r hyn lleiaf, dywedai llawer hynny wrthi; clywais hwy â'm clustiau fy hun. Cofiaf Mr. Syth gyda hi yn dadlau ei hawliau hi i'w rhan fwy nag unwaith. Ond ni allai ei symud. Ar ôl iddo ef fethu daeth ei chefnder, yr hen Siôn Ifan y Pennant, i geisio ei pherswadio. Cyrhaeddodd tua chanol dydd, ar bwys ei ffon. Dangosai i'm nain ei gysylltiad ef a hithau â Pheter Ffowc, ac mai hi ac ef oedd i gael y siâr fwyaf. Bu yn y tŷ yn ymresymu'n hir, ond daliai fy nain yn gyndyn. Yr oedd yr hen Siôn wedi cynhyrfu drwyddo. Edrychai cyn wyllted a 'deryn, a'i lygaid yn melltennu. Aeth fy nain i'w ddanfon at y cut lloeau. Ofnwn bob munud weled yr hen ŵr, er ei fod wrth ei ffon, yn neidio dros ben fy nain, gan mor wyllt yr edrychai. Nid wyf yn sicr iawn beth oedd y rheswm fod fy nain yn gwrthod ymuno—un yn ddiau oedd nad oedd ganddi bunt i'w sbario. Ond y mae
Tudalen:Cwm Eithin.djvu/80
Gwedd