Tudalen:Cwm Eithin.pdf/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byddai'r gwthiwr yn cyrraedd y mynydd yn fore iawn, â chaniaid o siot neu ganiaid o laeth enwyn, a bara chaws, a gweithio'n galed hyd yr hwyr. Gweithiwr caled oedd pob gwthiwr, oherwydd fe ofalai pob diogyn na ddysgai ef sut i wthio. Gwelais yn un o lyfrau cyfrifon fy nhaid am 1815 gytundeb a wnaed â gŵr, o'r enw Thomas Williams, i wthio ffridd y Garreg Fawr Syrior am un swllt ar bymtheg yr acer fel y gwelir. wn pa faint o amser a gymerai i flingo acer o fynydd; dwy i dair wythnos mae'n debyg.