Tudalen:Cwm Eithin.pdf/188

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Calan Gaeaf oedd y dydd hel bwyd cennad y meirw, ond byddai llawer o dlodion yn parhau i hel am ddyddiau. Dywaid Wm. Davies fod Cynwyd, Corwen, Llansantffraid a Glyn Dyfrdwy wedi bod yn ffyddlon iawn i'r ddefod hon. Cerddai llawer o wragedd tlodion o gwmpas, a gofalai gwragedd y ffermydd bobi a chrasu nifer o deisennau bychain i'w rhoddi, ac i rai fod o gwmpas mor ddiweddar ag 1876. Arferai plant fyned yn gwmniau i hel bwyd cennad y meirw.

Dywaid fy nai, John Edwards, fod yr arfer yn fyw ym Metws Gwerfil Goch yn 1900, neu ddiweddarach, ac mai dyma'r pennill a'r dôn a ganent wrth hel bwyd cennad y meirw pan oedd yn hogyn yn yr ysgol yno:—

Cofiaf yn dda i mi fod unwaith yn hel bwyd cennad y meirw yn y Cwm Main, neu Gwm Dwydorth, pan oeddwn tua phump oed.

Dechreuasom ar y daith yn Nhai Mawr. Cawsom globen o frechdan driagl. Bwyteais a allwn ohoni, ond yr oedd darn mawr yn weddill, a'r triagl wedi rhedeg i'm llewis ac ar hyd fy mrat. Nid oedd gennyf ysgrepan i'w rhoddi ynddi, a minnau eisiau myned gyda'r bechgyn i Tŷ Tan y Ffordd, y ddwy Wenallt a Choed Bedo. Yng nghanol fy mhenbleth, gwelais Hugh, mab Tŷ Tan y Ffordd, yn troi tir i wenith, ac am y gwrych â mi. Pan gefais ei gefn, gwthiais trwy'r gwrych a rhoddais y frechdan o dan y gwys. Meddyliais lawer gwaith fyned i'r cae i edrych a ydyw hi yno.

Er chwilio a holi cryn lawer nid wyf wedi llwyddo i gael unrhyw eglurhad ar yr arferiad hynafol o hel bwyd cennad y meirw.