Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cwm Eithin.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wneyd un math neullduol o ddarpariaeth gelfyddydol at ddadlwytho llongau o un math, ni fu un erioed ag y deuai i mewn iddo, ac yr elai allan ohono, fwy o fan longau. Er mor anwybodus oedd pobl yr adeg honno, fe wyddent yn eithaf da am ddeddf yr ŷd; ond 'yr oedd pris yr ŷd wedi myned i fyny i'r fath raddau, fel yr oedd rhyddid i gludo ŷd a blawd o'r gwledydd tramor, i'w werthu yn unrhyw fan yn y deyrnas hon; a than aden y rhyddid hwnnw yr hwyliasai y llong hon o'r Ysbaen yn llwythog.

Lledaenwyd y newydd am laniad y llong fel tân gwyllt, ac heb oedi dim gwelid pobl yn hwylio tuag yno-rhai gyda chydau ar eu cefnau, ac eraill yn marchog, gan ddwyn gyda hwy sach, ac ystrodyr pwn, fel y gellid cludo sachaid yn ol. Ym mhlith y llu gwelid Mari gyda chwdyn bychan, glân, dan ei chesail, yn cyflymu ym mlaen yn llawn chwys, yn gwneyd a allai i frysio, er mwyn dychwelyd gyda blawd i'w bobi i ddiwallu anghenion y plant. Bu raid iddi hwylio ei cherddediad y boreu heb ddigon o ymborth, a hynny gafodd o'r fath waelaf, ac yn gwbl ddifaeth-dim ond deiliau wedi eu coginio, fel y sylwyd yn flaenorol. Ni feddai ond rhyw ychydig sylltau at brynu blawd, a phe buasai ganddi chwaneg o arian, y mae yn amheus a allasai gludo mwy na gwerth hynny o arian a feddai, gan mor ddinerth oedd, ar ol treulio agos flwyddyn gyfan ar lawer llai na digon o ymborth. Gorfodid hi i orphwys yn fynych ar y ffordd, a gwisgai olwg luddedig, wedi " ymlâdd yn lân," fel y dywedid. Pe mai hi yn unig a fuasai yn y fath sefyllfa newynog a dihoenllyd, y mae yn ddiau y buasai yr olwg arni yn ennill tosturi, ond, fel yr ydys wedi dweyd yn barod, yr oedd nid [yn] unig y tlodion, ond y ffermwyr a phob dosbarth agos yn yr un sefyllfa-pawb ar fin newyn, ac agos wedi dyfod i gredu mai newynu a wnaent.

Ni chwanegodd cyrhaedd pen y daith ddim at na chysur na llawenydd y rhai ddaethant o bellder ffordd i chwilio am flawd i ymlid ymaith newyn o'u preswylfeydd, yr hwn oedd eisoes wedi dyfod i mewn; rhai o'r teuluoedd yn barod wedi eu claddu, ac eraill mewn gwaeledd, yr oll wedi eu ddwyn oddiamgylch gan, ac yn codi o, ddiffyg lluniaeth. Pan wnaethant eu hymddangosiad yn y porthladd, mynegodd v perchennog ei fod wedi gwerthu y blawd oll i fonheddwr tra hysbys yn y wlad, Syr Wmffra Garanhir, un yn meddu