CWM GLO.
——————
YR ACT GYNTAF
GOLYGFA I
Partin tan-ddaear. Amser brecwast.
Pethau a ddigwydd bob dydd, ym mhob "Cwm Glo" yn y Sowth, yw defnydd y chwarae hwn. Y cwbl a ofynnir yw cyfnod o bedair blynedd, i hadau'r ddwy olygfa gyntaf brifio: aeddfedant i'w priod ffrwyth yn ddiymod.
Pan gyfyd y llen y mae'r llwyfan mewn tywyllwch a llwch glo mân, ond bod un lamp glowr, sydd yn hongian wrth un fraich pâr o goed yn agos i ganol y llwyfan, yn creu cylch clir o olau, fel gnotai, am ben y glöwr hwnnw. Wrth i'r llygaid gynefino a'r tywyllwch gallwn ninnau amgyffred yn well mai partin tan-ddaear sydd o'n blaen a bod pâr o reilffyrdd gloyw yn rhedeg ar draws y llwyfan o'r chwith uchaf i'r dde isaf. Rhed ohonynt ddeubar arall i mewn tua'r ffos sydd yn rhywle ar y dde.
Cliria'r llwch a gwelwn mai DAI DAFIS, gŵr ar ei ganol oed, sydd yn eistedd wrth droed y coler coed, a'i fod yn bwyta ac yn ceisio darllen papur yr un pryd.
Heb godi ei ben o'r papur, estyn ei law i'r tomi bocs ac at y jac bob yn ail, ac ni newidia ei osgo ddim pan glywwn ninnau ei lais:
DAI. Hei, dere mlân, Dic. I bwy wyt-i'n gweithio' te? Ma' hi'n bryd bwyd. Teilwng i'r gweithwr ei fwyd. Dere o'na, Bob; gad y bocs 'na i fod 'nawr.