Tudalen:Cwm Glo.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

CWM GLO

MARGED.-Mae digon o fara gen i, ond does dim menyn arno. (Glanhâ'r plât menyn yn lân). Mae gyda-chi lot o fenyn fan' na.

MRS. DAVIES.-Nag oes, gen i ddim menyn i gael. Mar- garîn yw hwn, a 'dwyt ti ddim yn leicio margarîn.

MARGED. Oes yma ddim teisien i gael te? (Gwel nad oes). 'Does yma ddim byd i gael, a 'dyw Bet Lewis byth yn galw 'nawr, chwaith.

MRS. DAVIES.-O! 'dwn i ddim, wir. 'Alli di ddim dweud hynny. Hi ddaeth â'r cig moch yna yma, a hi roddodd y menyn 'na inni hefyd. (A MARGED ymlaen a'i bwyta, a'i mam yn troi ei the am spel fach).

MARGED.-'Roen-nhw 'n rhoi sgidiau maes yn yr ysgol heddi.

MRS. DAVIES.-Oen-nhw? Gest-ti rywbeth?... Naddo, gynta; pwy ddiwrnod cest ti..


MARGED (yn torri arni)-Na, 'dwy-i byth yn cael dim byd o werth! MRS. DAVIES.-O Marged! mi gest y got a'r cap a'r sgarff yna pwy ddiwrnod. MARGED. A mae rheini i gyd rhy fach i fi!

MRS. DAVIES (yn troi arni).-Mae'n dda i ti eu cael nhw fel mae nhw, gwle i!

MARGED.-'Rych chi mam yn meddwl... (ond daw cnoc ar y drws).

MRS. DAVIES.-Pwy sydd yna, wn i? (Ar ôl iddi fynd at y drws a'i agor). O, Miss Lewis, chi sy' 'na. Dewch mewn . . . Sut ych chi? (Dont i mewn ill dwy).

BET.-O, 'rwy-i'n dda iawn, diolch, a chithau?