Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyderus nad oes ond ychydig enill ar besgi mochyn gydag ymborth wedi ei brynu yn ddrud; ond fe'ch argyhoeddir fod elw mawr ofagu moch bach, fel y bydd i brawf byr ei arddangos i chwi.

"Un gair eto at fy mrodyr cyfoethocach. Os ydych chwi yn rhy dda allan eich hunain i ofalu am wneyd arian trwy gadw hwch fagu, gadewch i mi awgrymu i chwi y modd i roddi blwydd-dal o £20 i ryw lafurwr teilwng yn eich cymydogaeth, yr hyn a allai fod yn esiampl i'w gymydogion, am y byddont yn fwy tueddol i gymeryd gwers gan un o'r un dosbarth a hwy na chenych chwi. Adeiladwch gwt mochyn i'r dyn tlawd yma, a rhoddwch iddo hwch fagu, ar y telerau fod iddo godi digon o ymborth iddi yn ei ardd ei hun, ac fod iddo ofalu am yr anifail, a chadw ei chwt yn lân, a pheidio gwario mwy na thri swllt y pen ar bob mochyn a ddiddyfnir; nid yw pobl dylodion, fel rheol, ond yn haner porthi (hyny ydyw, newynu) eu hanifeiliaid, pa un bynag a fyddont ai ffowls, moch, gwartheg, neu asynod: camgymeriad dybryd ydyw cadw unrhyw anifail ar lai na digon o fwyd, yn enwedig gwartheg a moch.

"Yr wyf fi, trwy brofiad, wedi cael allan mai y Tamworth ydyw yr hwch fwyaf defnyddiol yn gyffredinol, a'r oreu am epilio hefyd, a ellir gael. Y maent yn fawr, yn hytrach yn meddu coesau a thrwynau hirion; ond y maent yn gelyd, yn famau gofalus, ac yn cynyrchu torllwythi Iluosog. Mochyn y ffermwr ydynt mewn gwirionedd, ac nid yw eu moch bach byth yn pallu cyrhaedd y pris uchaf yn y farchnad, oblegyd ar gyfrif eu maintioli a'u caledrwydd, y maent yn ymddangos yn 'obeithiol' i olwg y prynwr fel rhai y gellid eu gwerthu yn ddeufis oed. Fel moch i gael eu pesgi at facwn, y maent yn mhell tu hwnt i bob rywogaeth arall, am fod llai o gig gwyn ynddynt, a chynyrchant yr hams goreu a'r bacwn mwyaf rhagorol at frecwest. Gellir eu cael yn hawdd mewn bocs bychan ar hyd y rheilffordd, heb ond ychydig draul, pe byddai rhywun yn dymuno gwneyd prawf arnynt."