taledd. At wella y diffyg yma, dygwyd rhywogaethau moch China a Naples i'r wlad hon. Gwnaeth y croesfridiad yma les mawr i'r hen rywogaeth frodorol, er nad ydynt yn cael eu hoffi yn fawr iawn eto.
Amrywiol Rywogaethau ereill.—Er mai y tri rhywogaeth a nodwyd sydd yn cymeryd y blaen yn bresenol yn yr Arddangosfaoedd, eto y mae rhai rhywogaethau ereill na ddylem fyned heibio iddynt yn ddisylw. Dyna rywogaeth fawr, wỳn a du, swydd Gaerlleon; moch gwynion Suffolk a Hampshire; a moch brithion swydd Sussex a'r Amwythig-y mae y rhai hyn yn dra adnabyddus yn mysg rhywogaethau ein gwlad. Y maent yn fwy garw, a siarad yn gyffredinol, na moch Berkshire a China. Y mae y naill a'r llall o honynt wedi cael eu trosglwyddo yn lled helaeth i Gymru ac Ysgotland, lle yr ymddengys fod rhywogaeth wèn, llai o ran gwerth, wedi cael ei chyfleu yn gynarach, os nad ei naturioli. Y mae hefyd yn Ysgotland, fochyn llwyd bychan, naturiol i'r wlad yn ol pob ymddangosiad, yr hwn a ymbortha yn finteoedd ar borfeydd naturiol yr Ucheldiroedd (Highlands,) a chynyrcha gig tra rhagorol. Trwy ei borthi yn dda gydag ymborth o ddyfais dyn, gellir ei godi i faintioli tra mawr. Ond y rhywogaeth a werthfawrogir yn fwyaf cyffredin yn Mhrydain ydyw cymysg o foch lliw tywyll China gyda moch Berkshire, neu rai o'r amrywiaethau mwyaf o'r hen fochyn Prydeinig. Y mae y croesiad yma yn meddu lluaws o nodweddau da, ac y mae yn un hynod o epilgar. Y mae daearfochyn Hampshire naill ai yn perthyn neu yn gyfathrachol i amrywiaeth Berkshire; mochyn du ydyw hwn, cymhwys iawn i weithwyr, canys y mae yn dra hawdd ei fwydo a'i besgi, ac felly y mae yn dra gwerthfawr.
Yn yr Iwerddon, lle y mae y mochyn gwreiddiol a chynhenid yn cael ei ddarlunio, gan un o ysgrifenwyr galluog y wlad hono, fel yn "dal, hirgoes, esgyrnaidd, trwm-glustiog, garw ei flewyn, ac yn tebygu mwy o lawer i faedd gwyllt nag i fochyn gwareiddiedig," da genym hysbysu fod y rhywogaeth wedi gwella yn fawr yn ystod y blynyddau diweddaf, ac fod yr hen foch anfuddiol hyn