Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iau Gwyl Fiangel, ac yn y dull canlynol:—Torwch hollt groes yn nghanol y cwd uwchben yr arenau, yna tynwch hwy allan yn dyner, ac eneiniwch yr archoll gyda thàr. Ond ni ddylid dyspaddu hychod nes y byddont yn dair neu bedair blwydd oed; er gwneyd hyn, torwch yn nghanol y tenewyn, hollt a fyddo o led dau fŷs, gyda chyllell fechan finiog, a thynwch allan gôd yr enedigaeth, a thorwch hi ymaith; yna gwnïwch yr archoll i fyny, eneiniwch ef, a chedwch yr hwch mewn cwt cynhes am ddeuddydd neu dri; yna gollyngwch hi allan, a bydd iddi besgi yn fuan.

Dan y pen hwn nis gallwn lai na rhoddi o flaen y darllenydd sylwadau awdwr arall, yr hwn a enwyd yn flaenorol, am yr ystyriwn eu bod yn dra phriodol a gwerthfawr. Megys gydag anifeiliaid gwareiddiedig ereill y mae yn annichodadwy cadw âl berffaith ac enillgar o'r mochyn, heb epiliad doeth a gofalus. Dyma a ddywed:—

"Wrth ddewis rhiaint eich ystôr, rhaid i chwi gofio yn fanwl am y gwrthddrych a fyddo genych mewn golwg—pa un ai eu magu at borc ai bacwn a wneir; a pha un a ddymunech gyfarfod y farchnad gynaraf, ac felly gael rhywfaint o enill trwy roddi allan y swm lleiaf a ellir o arian, ac heb golli amser; ai ynte a fwriedwch ymfoddloni i aros am fwy o enill, er iddo fod ychydig yn hwyrach.

Os cael bacwn i'r farchnad ddiweddar fydd eich amcan, byddai yn dda i chwi ddewis yr amrywiaethau mwyaf a thrymaf o foch, gan ofalu am fod y rhywogaeth yn meddu yr ansoddau hyny ag ydynt yn fwyaf tebyg i sicrhau enill da; sef tyfiant, a rhwyddineb i besgi. Ar y llaw arall, os eich amcan fydd cael porc, chwi a ganfyddwch mai gwell fydd i chwi gymeryd yr amrywiaethau lleiaf: y cyfryw ag a gyrhaeddant lawn faintioli yn gyflym, a'r rhai ydynt debycaf o gynyrchu y cig tyneraf. Wrth gynyrchu porc, nid yw yn dda ei fod yn rhy frâs, heb gyfartaledd cyfatebol o gig coch; ac ar yr ystyriaeth yma, cynghorwn chwi i geisio hwch o groes-rywogaeth, yn hytrach nag un o waedoliaeth China bur, oblegyd byddai gorfrasder yn debyg o ddeillio oddiwrth yr olaf.

"Bob amser, pa un bynag ai porc ai bacwn a fydd