Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w harchwaeth at fwyd ddarfod ddiwrnod neu ddau cyn i'r ymollyngiad neu y pensyfrdandod gymeryd lle. Y feddyginiaeth at yr anhwyldeb yma ydyw, gwaedu y mochyn mor fuan ag y canfyddwch fod yr afiechyd wedi gafael ynddo, a hyny o dan y clustiau, ac o dan y gynffon, yn ol barn rhyw rai. Er mwyn gwneyd iddo waedu yn rhwydd, curwch ef gyda gwialen neu ffon fechan tra y byddis yn ei waedu; ac ar ol ei waedu, cadwch y mochyn yn ei gwt, rhoddwch iddo flawd haidd mewn maidd cynhes; a gellwch ychwanegu y llysiau a elwir y wreiddrudd (madder), y rhai a soniasom am danynt o'r blaen, neu red ochre wedi ei bowdro.

AM Y CLEFYD A ADNABYDDIR WRTH YR ENW SPLEEN, NEU DDUEG MEWN MOCH.

Gan fod moch yn greaduriaid nad yw braidd yn bosibl eu digoni, y maent yn fynych yn cael eu blino gyda chyflawnder o spleen. Y feddyginiaeth gogyfer â hyn ydyw rhoddi iddynt frigau tamarisk, wedi eu berwi neu eu trwytho mewn dwfr; neu os gellir cael rhai o ysbrigiau llai a thynerach o'r tamarisk, newydd eu casglu, a'u malu yn fân, a'u rhoddi iddynt yn eu bwyd, byddai o les mawr iddynt; oblegyd y mae y nodd, neu y sug, a phob rhan o'r coed yma, yn dra llesol i foch yn y rhan fwyaf o'u hanhwylderau, ond yn fwy arbenig felly yn yr anhwyldeb yma. Oni ellwch gael tamarisk, gellwch ddefnyddio topiau grug yn eu lle, wedi eu berwi mewn dwfr.

AM Y COLER MEWN MOCH.

Arddengys yr anhwyldeb yma ei hun yn gyffredin trwy fod y mochyn yn colli ei gig, yn gwrthod ei fwyd, ac yn tueddu yn fwy nag arfer at gysgu, ac hyd yn nod yn gwrthod porfa newydd y caeau, ac yn syrthio i gwsg mor fuan ag yr elo i'r borfa. Y mae yn beth cyffredin, yn yr afiechyd yma, i fochyn gysgu tair rhan allan o bedair o'i amser; ac o ganlyniad, nis gall fwyta digon at ei gynaliaeth. Gellir galw yr anhwyldeb yma yn gysgadrwydd, neu farweidd—dra, oblegyd mor gynted ag y mae wedi