Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

honynt hynny ryw dro, fel y gwyddail gwas yr archoffeiriad yn dda; ond nid oes angen am gleddyfau na grym arfau ym myddin Calfaria. Gair Duw yw cleddyf yr Ysbryd, ac er mwyn lladd Cristionogaeth yr oedd yn rhaid difa'r cleddyfau hyn.

O dan deyrnasiad yr Ymerawdwr Decius (245—251) gwelodd yr Eglwys ddyddiau blin iawn. Penderfynwyd difodi'r grefydd oedd yn ymlid paganiaeth gyda'r fath gyflymder, ac yr oedd Decius am adfer pethau i'r hyn oeddynt yn nyddiau Trajan a Marcus Aurelius y stoic, a bu erledigaeth dost ar bawb a ddygai enw'r Iesu. Daeth Valerian (253 —260) i'r orsedd, ac am saith mlynedd. chwythodd ystorm erwin, Yr oedd y moesgarwch, a ddesgrifir gan Gibbon, a pha un y gosodai'r swyddogaeth Rufeinig ddyfarniad y llysoedd mewn gweithrediad yn gwneuthur yr erledigaeth yn greulon dros ben. Ar ol dyddiau hwn bu goddefgarwch yn llywodraethu. Cafodd yr Eglwys seibiant am ddeugain mlynedd. —dyddiau mwy peryglus i foesau'r disgyblion na dyddiau'r erledigaeth fwyaf Ilymdost. Nid oes lle i us yn yr Eglwys lle chwyth y gwynt yn gryf; a phura'r