Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr ail o'i feibion a fu ar yr orsedd, cyflawnwyd geiriau Nahum, a daeth ymerodraeth Ninefeh i ben. Gwnaeth Syr Henry C. Rawlinson fwy na neb o'i gyoedion i ddehongli yr ysgrifeniadau ar ffurf cŷn neu lettem (cuneiform=wedge shaped); ac enwau ereill y dylid eu cofnodi ynglyn â darganfyddiadau Assyriaidd yw enwau George Smith, Edwin Norris, a Hormuzd Rassam-cynorthwywr Layard, a'i olynydd yn y gwaith.

Y darganfyddiadau hyn i fesur mawr a ganodd y gloch i alw ymchwilwyr ereill i wledydd y Beibl. Y mae y gwirionedd yn codi awydd am wybod mwy. Cyfyd bendithion a doniau'r Nef awydd am fwy. Diwallant ein presennol, eangant orwelion y dyfodol; ac y mae'r dyddordeb dwfn a deimlir yn Iesu Grist a'i lyfr wedi creu dyhead am wybod mwy, ac am ddeall yn well. Y mae'r Ellmyniaid yn archwilio Assyria ers deng mlynedd; a phan y cyhoeddir o ffrwyth eu llafur ychwanegir yn ddirfawr at ein gwybodaeth. O'r nifer mawr o golofnau o bob math sydd yn drysoredig yn y wlad hon, nid oes ond ychydig wedi ei ddarllen a'i ddehongli.

Un o'r rhai cyntaf i ymweled â Phalestina gyda'r amcan hwn oedd Felix Fabri.