Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ordeb hynafiaethol; a darganfod pethau a berthynent i oesoedd boreuaf Cristionogaeth. Miss Amelia B. Edwards (1831—1892) a sefydlodd y Drysorfa hon yn 1882. Adwaenir hi fel nofelyddes. Teithiodd lawer yn yr Aifft; ac iddi hi yr ydym yn ddyledus am wybodaeth eang o wlad y Pharaohiaid.

Gwnaeth darganfyddiadau rhyfedd Arthur J. Evans, a'i dybiau awgrymiadol, lawer i awchu yr un meddwl.

Erbyn hyn y mae cymdeithasau ereill, yn cynrychioli pob gwlad, yn chwilio ac yn cloddio, ac yn llwyddo yn hynod i alw yn ol yr oesau gynt, a llawenychwn am fod y cyfan yn tueddu i greu dyddordeb yn y Beibl; ac y mae pethau dyfnach yn gwreiddio yn yr un man a dyddordeb bob amser.