Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

angen am grebwyll byw iawn i ddeall yr amgylchiadau. Onid oedd y ddinas newydd yn gartrefi i'r duwiau a drawsfeddianasant hawliau hen dduwiau'r Aifft? Nid yw yn debyg y gallasent gredu y buasai yr hen dduwiau yn cymeryd dinas fel hon dan eu nodded: ac nid yw dyn yn reddfol yn hoffi lle nas gall ddisgwyl am aden ei dduw drosto. Ciliwyd o Tell El Amarna; ac aeth hithau yn garnedd.

Dywedasom fod yr Aifftiaid wedi goresgyn rhan helaeth o Ganan; a chawn syniad am lwyredd eu concwest pan gofiom mai â meirch a cherbydau yr ymladdai'r Aifft. Nid hawdd oedd darostwng gwyr y mynyddoedd â'r rhai hyn. Yr oedd y graig a'r dibyn a ilwybrau'r geifr a'r defaid yn rhy beryglus i'r meirch; ond yr oedd y gwastadeddau yn dra llwyr o dan eu hawdurdod; ac yn gwylio'u heiddo a chadw'r ffyrdd tramwyol o law'r lladron a'r gelynion, yr oedd swyddogion y llywodraeth. Ar hyd y ffordd hon y teithiai'r Ismaeliaid a brynasant, am ugain darn o arian, un o gymeriadau prydferthaf hanes. Ar y llechau adroddir helynt y swyddogion, fel y danfonwyd ef yn frysneges at eu meistr, Pharaoh, a hwy yn gwarchod masnach a buddiannau ereill yr Aifft.