Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fy erbyn mor bell a thiroedd Seeri (Seir), mor bell a dinas Giot (yn ol Conder, Gibeah) a ddinistrasant. . . Wele yr ydwyf fi, pennaeth yr Arglwyddi (neu'r Amoriaid), yn torri yn ddarnau; ac nid yw y brenin fy Arglwydd yn sylwi ar y deisyfiadau tra y maent hwy wedi ymladd yn fy erbyn yn ddiorffwys. Wele, O frenin cadarn, trefna lynges ynghanol y môr. Ti a orymdeithi i'n tir, tir Nahrima â thir Casib, ac wele, amddiffynfeydd y brenin yw. Ti a orymdeithi yn erbyn penaethiaid yr Hebreaid."

Esbonia yr Uchgadben Conder y cyfeiriadau hyn ynglyn â'r gorymdeithiad. Dywed fod yr Aifftiaid i ddod dros y môr i Ascalon neu Gaza—lleoedd ymron ar gyfer Jerusalem. Dyma'r ffordd a gymerodd y Philistiaid yn eu hymgyrch yn erbyn Saul; a byddai'n fwy dirwystr iddynt ddyfod y ffordd hon na llwybrau'r anialwch.

Carem allu credu fod y llythyrau hyn o Ganan yn cyrraedd yr Aifft ac yn cael eu darllen gan Pharaoh, pan oedd lluoedd Israel yn dyfod i fyny o'r anialwch i wlad a addawyd iddynt a lifeiriai o laeth a mêl. Cymerai i ni ofod go fawr i wneud cyfiawnder âg ymresymiad yr Uchgadben Conder; ac hyd nes cawn oleuni mwy a chanfyddiad eglurach, y mae'n well gennym yn ostyngedig gredu fod yn y llyth-