Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwyddodd yr ymosodiad yr achwynir arno gan Iddewon yr ynys. A y deisebwyr yn eu blaen i adrodd yr hanes. Yr oedd mab i Waidrang, sef Nephayan, yn gadfridog y llu oedd yn Syené; ac o'i amddiffynfa arweiniodd allan yr Aifftiaid a'r cadlengoedd ereill. Daethant yn groes i Elephantiné "a'u cawellau saethau." Aethant i deml Yahu. Dinistriwyd hi. Torrwyd y drysau o garreg. Llosgwyd y nen o goed cedrwydd; a chymerasant y cawgiau o aur ac arian, gan eu neillduo iddynt eu hunain. Tua chan mlynedd cyn hyn bu ymosodiad cyffredinol ar demlau duwiau yr Aifft. Ni wyddom hyd sicrwydd paham y bu hyn; eithr yr oedd perygl i'r offeiriadaeth fyned yn ormesol a thrahaus bob amser, a ffordd ferr at dynnu oddiwrth urddas yr offeiriad oedd dinistrio ei sefydliad crefyddol. Dan Cambyses (529- 522 c.c.) y digwyddodd yr ymosodiad, ond ni chyffyrddwyd yr adeg honno â theml Elephantiné. Wedi i offeiriaid Khnub gael un i'w gwasanaethu, a chael cyfle yn absenoldeb y llywodraethwr, ac iddynt. ddinistrio ty'r Duw Yahu, yr oedd galar yr Iddewon yn chwerw.

"Ac wedi gwneuthur o honynt hyn, nyni gyda'n gwragedd a'n plant a wisgasom sachlian