Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddaethum i'r ddinas. Eithr yr oedd cywilydd arnaf i ddod i Caranis, am fy mod yn rhodio oddiamgylch mewn carpiau. Ysgrifenais atat fy mod yn noeth. Atolygaf arnat, mam, cymoder di à mi. Ymhellach gwn pa beth a ddygais arnaf fy hun, Cosbwyd fi ymhob modd. Gwn fy mod wedi pechu. Clywais oddiwrth Postumus, yr hwn a gyfarfu à thi yn y wlad ger Arsinoe, ac a ddywedodd wrthyt yn anhymig bob peth. Oni wyddost ti y byddai yn well gennyf gael fy anafu na gwybod fy mod eto yn nyled dyn o obol? Tyred dy hun... Clywais fod. . . Atolygaf arnat . . . yr wyf bron . . .Atolygaf arnat.

Yn y lleoedd y mae'r brawddegau'n doredig, yr oedd y papur felly; ac yr ydym yn lled sicr fod teimlad yr ysgrifennydd a'r derbynydd felly. Nid aeth i'r brifddinas am na thybiodd y buasai'r fam yn alluog i fynd yno; a gresyn i Postumus. gario'i feiau i glustiau i fam.

Wedi chwilio'r Fayûm am rai blynyddoedd, dychwelodd Dr. Grenfell a Dr. Hunt i Oxyrhynchus yn Chwefrol, 1903; ac yn fuan iawn ar ol taro rhaw yn yr ysbwrial disgynnwyd ar gopi o "ddywediadau " ereill o eiddo'r Gwaredwr wedi eu hysgrifennu ar gefn rhestr o fesuriadau. Y mae yn ol pob tebyg ychydig flynyddoedd yn nes atom o ran oed na'r Logia. Cafwyd hefyd ddarn o ysgrif cyffelyb o