Tudalen:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Abertawe yr haf diwethaf i dderbyn graddau anrhydedd Prifysgol Cymru.

"Yr oedd asbri ieuenctid wedi dechrau marweiddio pan euthum i Gyfarfod Misol Llawryglyn tua mis Mai, 1899. Ar awr wan, cymerais fy hudo i'r Tŷ Capel i ysgwyd llaw â'r pregethwr dieithr, y Parch. Evan Jones, Caernarfon; ond pe gwybuaswn beth oedd yn fy aros, nid aethai troed i mi dros y trothwy. Yr oeddwn cyn hynny wedi bod mewn gohebiaeth â Mr. Jones ynghylch ei hynafiaid yng Nghyfeiliog; a phan hysbyswyd fy enw iddo, gwnaeth i mi eistedd wrth ei ochr, a dechreuodd arnaf. Efe a olygai Y Traethodydd ar y pryd, ac nid oedd a'i boddiai ond addewid am ysgrif gennyf i ar gyfer y cyhoeddiad hwnnw. Tybiais am funud mai cellwair oedd y cyfan; ond na, edrychai ym myw fy llygaid gan daeru mai felly yr oedd raid i bethau fod. I'm bryd i, yr oedd y syniad yn wrthun o afresymol ; gwladwr syml anwybodus, nad anfonasai baragraff i newyddiadur erioed—hwnnw i ysgrifennu i'r Traethodydd. Ceisiais ymhob modd i ymesgusodi, a gwn y toddasai fy ngolwg druanaidd galon unrhyw ddyn arall, ond ni fennai dim arno ef. Tawsai pawb yn yr ystafell i wrando arnom. Tewais innau gan gywilydd pur, a gadewais iddo esbonio fy nistawrwydd fel cydsyniad, er mwyn imi gael dianc rywsut i'r awyr agored. Bychan fyddai dweud na fwynheais foddion cyhoeddus y dydd, gan gyfyngdra ysbryd a gofid caled. Ond y gofid hwnnw a'm gyrrodd i Drefeca y tro cyntaf, a bum yn y gafael, i fesur bychan, byth oddi ar hynny.

"Ymhen rhai blynyddau gwasgwyd arnaf gan hwn a'r llall i annerch cynulleidfaoedd ar Hanes Methodistiaeth y Sir. Cyffredin oedd y performance mi wn; a lled gyffredin hefyd oedd y gydnabyddiaeth, lle y byddai'r cyfryw beth. Nid unwaith y dywedodd fy mam wrth fy hwylio i gychwyn,' Pe bâut yn ennill pâr o esgidiau ni chwynwn i ddim.' Ond barnodd cyfeillion Gleiniant yn 1906, fod fy anerchiad yn werth dau bâr o esgidiau, a throis adref yn gryn gawr.

Mewn llythyr at gyfaill, edrydd am gymhelliad pellach:—

Cynhelid Cyfarfod Misol yn y Bont, gerllaw fy nghartref, tua Hydref 1904. Dyna'r pryd y deuthum i deimlo fy mod yn gyflawn aelod o'r Cyfarfod Misol. Dilyn o hirbell a wnawn. cyn hynny, o dan ddylanwad tybiaeth fod y colofnau yn gwgu arnaf. Y pryd hwnnw, trinid rhyw fater neu'i gilydd bron ym mhob Cyfarfod Misol, ac os deuai rhwystr ar ffordd yr agorwr i gyflawni ei orchwyl, yr oedd hawl gan y Swyddogion i geisio rhywun i lanw'r bwlch. Beth bynnag, methai rhywun â dod, a daeth llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd i geisio gennyf i gymryd ei le. Lled anfodlon oeddwn, ond ildiais i daerineb, ac nid edifarheais byth.