Tudalen:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HANES FFURFIAD Y GYFFES FFYDD

GWR o Drefaldwyn oedd y cyntaf i awgrymu i'r Gymdeithasfa y priodoldeb o gyhoeddi Cyffes o'i ffydd. Ym mis Hydref, 1745, cynhelid Cymdeithasfa yn Errwd, islaw Llanfairmuallt. Gan ei bod yn beryglus i rai Cynghorwyr fyned oddi cartref y pryd hwnnw oherwydd y press gang, anfonodd Richard Tibbott o Lanbrynmair lythyr i Errwd, yn lle myned yno ei hunan. Yn agos i'r diwedd, dywed fel a ganlyn,—"Y mae gennyf rai pethau i'w gosod ger eich bron a fyddai, fel yr wyf yn credu, yn fuddiol i ni . . . Tueddaf i feddwl mai buddiol i ni fyddai rhoddi ein barn gyda golwg ar egwyddorion mewn argraff, fel na byddo camsyniadau na lle i neb feddwl ein bod yn coleddu syniadau nad ydym. Byddai hyn hefyd yn gymorth i ni ddeall ein gilydd, ac yn tueddu i fwy o undeb. A manteisiol fyddai gadael tystiolaeth am wirionedd yr Efengyl ar ein hôl, fel y gallai lefaru er lles oesoedd i ddyfod." Gallwn ninnau oll ymlawenhau yma heddiw ar bwys yr ystyriaeth fod un o feibion yr hen sir, yn y cyfnod bore hwnnw, mor graff i weled ac mor wrol i ddangos "beth a ddylasai Israel ei wneuthur."

Ond ni wnaeth Israel yn ôl yr awgrym am agos i 80 mlynedd wedyn. Y prif reswm am yr hwyrfrydigrwydd oedd mawr ofal ein Tadau am osgoi popeth a dueddai i'w gwneud neu i'w dangos yn sect neu enwad ar wahân i'r Eglwys sefydledig. Fel adran o'r Eglwys honno yr ystyrient eu hunain ac y dymunent i bawb arall edrych arnynt. Argraffwyd eu Rheolau i'r Seiadau amryw weithiau, lle y mynegir bod eu golygiadau athrawiaethol yn hollol gytun ag erthyglau eglwys Loegr. A chan fod y rheini yn agored i gael eu deall mewn mwy nag un ffordd, ychwanegid weithiau mai'r dehongliad Calfinaidd arnynt a goleddent hwy. Dyma fu eu safle am dros 80 mlynedd.

Crynhoir hanes y 50 cyntaf o'r 80 mlynedd mewn llythyr a anfonodd Williams o Bantycelyn, ddeng niwrnod cyn ei farwolaeth, at Mr. Charles o'r Bala. "Fe gadwodd Duw," meddai, ein corff ni yn rhydd rhag cyfeiliornadau dros agos i 60 mlynedd. Ni bu ddim heb ymosodiadau aml a dychrynllyd, oddiallan ac oddifewn, ond fe'i cadwyd hyd yma yn iach yn y ffydd trwy'r cwbl, er bendith i filoedd o'n cydwladwyr. Nid wyf yn ammeu na ofala yr un Duw am danom ni eto fel corff tros oesoedd a chenedlaethau."

Dyna dystiolaeth yr olaf o'r Tadau cyntaf am y gorffennol, a'i obaith am y dyfodol. Ac er mwyn gwneud a allai i sylweddoli'r gobaith, ychwanega rai cyfarwyddiadau sydd yn datguddio'r gorffennol wrth gynnig goleuo'r dyfodol. Anogwch y llefarwyr