Tudalen:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y DATHLIAD: YMBARATOAD ATO

BRAENARWCH i chwi fraenar, ac na heuwch mewn drain, dyna anogaeth y proffwyd. Oni wnawn ninnau rywbeth eleni, cnwd gwael a ellir ei ddisgwyl y flwyddyn nesaf. Ac ymddengys mai cenhadaeth Ioan Fedyddiwr sydd i'r flwyddyn hon, sef darparu i'r Arglwydd bobl barod.'

Y mae hynny'n bwysicach nag a feddylir. Llesteiriwyd graslonrwydd y nefoedd lawer tro gan amharodrwydd y ddaear. "Nesaodd amser yr addewid," meddai Steffan; ond prin y daeth yn ei hamser, serch hynny. Er bod yr Arglwydd yn barod i waredu, Moses yn barod i arwain, a Chanaan yn barod i newid dwylo, nid oedd Israel yn barod i gychwyn allan heb ysbaid ychwanegol o gaethiwed caled. Ond pobl barod sydd gymeradwy,—rhai wedi gwregysu eu lwynau a goleuo eu canhwyllau, rhai tebyg i ddynion yn disgwyl eu Harglwydd, a'u parodrwydd yn prysuro dyfodiad dydd Duw yn hytrach na'i atal.

Paratoir trefniadau'r Dathliad gan bwyllgorwyr medrus : pwy sydd i baratoi'r dathlwyr? Wel, y dynion eu hunain mewn ystyr. Meddai Hesecïa ar achlysur arbennig fel hwn, "Yr Arglwydd daionus a faddeuo i bob un a baratôdd ei galon er na lanhawyd ef yn ôl puredigaeth y cysegr." Nid diberygl oedd esgeuluso'r puredigaeth y pryd hwnnw, ond y llall oedd bwysicaf. Gwyliwn ninnau rhag gwario amser i feirniadu a beio gwaith eraill a gadael ein gwinllan briod yn gyfle drain a mieri. Canolbwyntiwn ein sylw ar ein hysbrydoedd ein hunain, rhag i 1935 ddyfod a'n cael yn cysgu. Gwell bod heb ddathliad na hynny.

Ond parod i beth? Eisiau dyfod i gyffyrddiad â'r nerthoedd dwyfol sydd arnom; syniad llethol i ddyn ystyriol. Nid yw nerth anianyddol yn beth i gellwair ag ef. Y mae gwifrau yn ein gwlad heddiw na faidd y cryfaf ohonom eu cyffwrdd heb ryw ddiogeliad. Ac y mae agweddau ar y Nerth Dwyfol sydd yn ddychryn i bechadur. "Wele fi yn anfon angel o'th flaen i'th gadw ar y ffordd . . ."Gwylia rhagddo" . . . na chyffroa ef: canys ni ddioddef eich anwiredd." Eto, argyhoeddiad dyfnaf ein calonnau yw bod yn rhaid ei gael. Pa ryfedd bod yr enaid effro yn bryderus drydar,—

"Dwed a ellir nesu atat,
Dwed a ellir dy fwynhau."

Atebiad diamwys y Nefoedd yw, Gellir.' Gwisgwyd y Nerth anfeidrol mewn tynerwch addewid, a gwahoddir y gwannaf i