Tudalen:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ANERCHIAD I'R BUDDUGWYR YN YR
ARHOLIAD SIROL

Annwyl Gyfeillion Ieuainc,—

DYMUNA'R Henaduriaeth eich llongyfarch yn galonnog ar eich llwyddiant yn yr Arholiad Sirol eleni, a dewisodd hen ymgeisydd, un na bu erioed yn llwyddiannus iawn ei hunan, i estyn y llongyfarchiad i chwi. Am heddiw fe ganiateir tipyn o falchder i chwi, ac i'r ysgolion y perthynwch iddynt.

Ond ni ellwch fyw i bwrpas wrth edrych yn ôl,-hyd yn oed ar orchestion. Rhaid parhau i edrych ymlaen. Edrych ymlaen i ddechrau at arholiadau'r blynyddoedd nesaf; penderfynu dal eich tir, ac ennill tir newydd eto. Ac edrych ymlaen ambell waith heibio i arholiadau at fywyd defnyddiol yn y byd yma. Oblegid moddion yw arholiad, ac nid diben. Hogi eich arfau a wnewch mewn arholiad; ac oni ddefnyddir hwy wedyn mewn gwaith, bydd yr hogi yn ofer. A dyma garwn i ei wasgu at eich meddyliau heddiw, eich bod drwy'r hogi wedi eich rhoddi eich hunain yn y gafael megis, wedi rhoddi eich enwau i mewn fel ymgeiswyr am waith na ellwch bellach ei wrthod yn anrhydeddus.

Dau ddosbarth lluosog yn ein heglwysi yw, y rhai a fedrai wneuthur unrhyw beth braidd, ond na wnânt ddim; a'r rhai na fedrant wneud nemor ddim yn ddeheuig, ond a wnânt serch hynny. Cael y medr a'r parodrwydd gyda'i gilydd a fyddai'n hyfryd. Awgryma eich safle heddiw fod y gallu gennych chwi; edrychwch chwithau ynteu at ddatblygiad ac ymarferiad yr ewyllys. Ewyllys i ufuddhau i rieni ac athrawon, i flaenor a gweinidog; ewyllys i weithio a llanw'r lle a gewch o bryd i bryd, dyna rywbeth amhrisiadwy werthfawr. Megwch hwn ynoch eich hunain. Gwyliwch rhag ymfodloni ar ysgwyd pen pan ofynnir i chwi wneuthur rhywbeth. Na hidiwch os dywed y gwatwarwyr eich bod yn ymwthio i sylw; pe bai yn wir, y mae gwaeth peth na hynny. Gwyddoch, ond odid, mai anodd yw cael y goler am wddf y ceffyl onis gwthia ef ei hun ryw fymryn.

Efallai mai un o ffurfiau cyntaf yr ufudd-dod a fydd sefyll. Safasoch yr arholiad, dysgwch eto sefyll mewn bywyd. Pa fath ddyn oedd Ioan Fedyddiwr, y mwyaf o blant yr Hen Oruchwyliaeth? Wel, nid corsen yn ysgwyd gan wynt ydoedd; nid rhywbeth chwit-chwat, na wyddai neb ym mha le i'w gael. Medrai sefyll yn ei le ar bob math o dywydd. Ceir hanes arholiad yn y Beibl, ac y mae enwau'r buddugwyr ar lawr. Pedwar o fechgyn oddi cartref oeddynt, a thystiai'r Arholwr eu bod yn