Gŵyr pawb ohonom sydd yn dechrau heneiddio am y teimlad hwn. Ond nid oes sicrwydd bod y Salmydd yn hen. Casgla llawer oddi wrth gywreinrwydd cynllun y Salm hon, ei rhaniad yn gynifer o adrannau cyfartal, wyth adnod ymhob un, a phob adran yn dechrau gyda llythyren wahanol o'r wyddor, mai bardd cymharol ieuanc ydyw. Wel, ynteu, ai ymson sant aeddfetach na chyffredin a geir yma? Y mae peth felly yn bod. Meddai un o'n hemynwyr :—
"Fe sugnodd nefoedd Duw fy mryd,
Nes wyf yn ddieithr yn y byd.
Ond prin y gellir meddwl bod y Salmydd wedi cyrraedd tir fel yna. Nid oedd bywyd ac anllygredigaeth wedi eu dwyn i oleuni yn ei amser ef, a rhyw ymbalfalu, megis dan eu dwylo, yr oedd mwyafrif seintiau yr Hen Oruchwyliaeth ar gwestiwn y dyfodol.
Ond yr oedd un ystyriaeth yn amlwg i brofiad y Salmydd sef mai taith neu yrfa yw bywyd dyn ar y ddaear. Gwelir hynny yn ei fynych ddefnydd o'r termau ffordd a llwybr.' Pe gofynasid iddo beth oedd bywyd, atebasai mai llwybr yn arwain i rywle ydoedd. A phe gofynasid iddo beth oedd ef ei hun, dywedasai mai teithiwr oedd. Ac y mae'n sicr bod y gair" ymdeithydd" yn gywirach cyfieithiad o ddechrau'r adnod na'r gair "dieithr." Ymdeithydd ydwyf ar y ddaear." I ba le, dichon na wyddai, ond gwyddai ei fod yn mynd i rywle. Y mae yr un peth yn wir amdanom ninnau, a phurion a fyddai inni aros yn awr ac eilwaith yng nghwmni'r gwirionedd, er nad oes dim yn newydd ynddo. Hwyrach ein bod yn rhy debyg i'r Atheniaid gynt, yn ein hysfa am bethau newydd. Addefai yr Apostol Pedr ei fod yn fodlon ar ddwyn ar gof i'w ddarllenwyr hen bethau a wyddent o'r blaen, er mwyn gwasgu'r cyfryw yn ddwysach at eu hystyriaeth mewn trefn iddynt fedru dylanwadu'n briodol ar eu holl fywyd.
Gwyddom ninnau yn burion mai teithwyr ydym, ac addefwn hynny mewn ffordd lac yn aml, ond a ydym yn ei sylweddoli, fel y Salmydd, nes iddo fod yn brofiad byw o'n mewn? Onid iaith ddirgel ein calon yw 'Ni'm syflir yn dragywydd.' 'Ni byddaf mewn blinder hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.' 'Byddaf farw yn fy nyth' (hynny yw, os byddaf farw hefyd). Byddaf mor aml fy nyddiau â'r tywod.'
Nid fy amcan i, fy nghyfeillion, yw ceisio eich arwain i gymryd golwg bruddaidd ar fywyd, na meithrin teimlad o'r fath ynof fy hun chwaith. Ond pa les inni ein twyllo ein hunain? Pa ddoethineb a fyddai mewn gwthio ein pennau i'r tywod, fel y dywedir am yr estrys, a meddwl nad oes berygl oni byddom ni yn ei weld? Onid gwell yw edrych ar y sefyllfa yn deg yn ei hwyneb? Oblegid edrych neu beidio, fe'n syflir, fe ddaw blinder, fe chwelir ein nyth,